FameLab 2019
16 Mai 2019
Bydd Dr Emma Yhnell, o Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cystadlu yn erbyn wyth arall yn rownd derfynol FameLab yn y Deyrnas Unedig eleni, cystadleuaeth a gynhelir yng Ngŵyl Wyddoniaeth Cheltenham ar 3 Mehefin.
Sefydlwyd FameLab yn 2005 gan Wyliau Cheltenham, mewn partneriaeth â NESTA, i ddarganfod a dathlu gwyddonwyr a pheirianwyr sydd â dawn ymgysylltu â’r cyhoedd. Ers 2007, mewn partneriaeth â’r Cyngor Prydeinig, mae FameLab hefyd yn gweithredu ar lefel fyd-eang, ac mae ar waith mewn mwy na 30 o wledydd ledled Ewrop, UDA, Asia ac Affrica. Mae dros saith mil o ymchwilwyr wedi bod yn rhan o FameLab International hyd yma.
Mae tri cham i’r gystadleuaeth. I ddechrau mae’r cystadleuwyr yn cymryd rhan mewn rowndiau a rowndiau terfynol rhanbarthol. Ar ôl ennill cystadleuaeth ranbarthol Cymru, mae Emma wedi cyrraedd rownd derfynol y Deyrnas Unedig. Wedyn bydd yr enillydd yn cymryd rhan yn y rownd gyn-derfynol ryngwladol ar 5 Mehefin, ac yn cystadlu yn erbyn 25 yn y rownd derfynol i gyrraedd y rownd derfynol ryngwladol fydd yn cael ei chynnal ddiwrnod yn hwyrach.
Dywedodd Emma: “Fel gwyddonydd, rwy’n credu bod cyfathrebu â'r cyhoedd am ein hymchwil yn hanfodol. Wedi’r cyfan mae’r rhan fwyaf o ymchwil yn cael ei ariannu gan y trethdalwr, ac mae ymchwil sy’n gysylltiedig ag iechyd yn cael effaith uniongyrchol ar bobl go iawn.
“Fe wnes i gymryd rhan yn FameLab gan ei fod yn swnio fel her wych - gorfod esbonio pwnc gwyddonol mewn tair munud yn unig. Nid yw’n amser hir iawn a doeddwn i ddim wedi gwneud dim byd tebyg o’r blaen. Rydw i wir wedi mwynhau datblygu fy nghyflwyniadau a propiau ar gyfer rowndiau cyntaf y gystadleuaeth lle roeddwn i’n canolbwyntio ar eneteg a niwrodrosglwyddiad.
“Rydw i wrth fy modd mod i yn rownd derfynol y Deyrnas Unedig, ac rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu syniad newydd i’w gyflwyno. Rwy’n gobeithio bydda i’n gallu bod yn destun balchder i Gymru yn rownd derfynol y gystadleuaeth.”