Ewch i’r prif gynnwys

Rôl ganolog i'r Brifysgol yn Eisteddfod yr Urdd

8 Mai 2019

Croseo sign at Urdd

Mae Prifysgol Caerdydd yn amlygu sut mae’n cefnogi pobl ifanc yng Nghymru yn rhan o’i phresenoldeb yn un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop i bobl ifanc.

Mae’r Brifysgol wedi partneru ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, a gynhelir ym Mae Caerdydd o 27 Mai tan 1 Mehefin, yn rhan o’i hymrwymiad i’r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Bydd y Brifysgol yn cynnal cyfres o ddarlithoedd a gweithgareddau ar y Maes, yn ogystal â chefnogi rhai o’r digwyddiadau pwysicaf.

Bydd gweithgareddau ym mhabell y Brifysgol yn cynnwys darlith ar atal digartrefedd ymysg pobl ifanc, trafodaeth am Gymraeg yn y gweithle, sesiwn holi ac ateb gyda newyddiadurwyr Cymraeg newydd, a chipolwg ar fywyd fel myfyriwr meddygol.

Mae sawl gweithgaredd ymarferol i ymwelwyr iau, fel datrys posau, creu meddyginiaethau ac archwilio arteffactau o fryngaer yng Nghaerdydd.

Ar ben hynny, gall y rhai sy'n ymweld â’r babell ddarganfod pam mae gwenyn mêl yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr Cymru, dyfalu faint o boteli o waed sydd mewn corff plentyn ac ystyried sut gall deintyddiaeth helpu pobl i wenu, bwyta a siarad ac hefyd sut mae moddion yn cael eu darganfod yng nghreaduriaid y môr.

Yn ogystal â chynnal digwyddiadau a gweithgareddau, bydd y Brifysgol yn noddi seremoni uchel ei pharch, y Coroni - ar gyfer awdur y darn gorau o ryddiaith dros 4,000 o eiriau – a'r gyngerdd ar ddiwedd y digwyddiad.

Ymysg digwyddiadau pwysicaf y Brifysgol, bydd Dr Andrew Connell, o Ysgol Busnes Caerdydd a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yn trafod sut gellir atal digartrefedd ymysg pobl ifanc.

Bydd ei ddarlith, a gynhelir ym mhabell Prifysgol Caerdydd o 11:00 ddydd Sadwrn 1 Mehefin, yn seiliedig ar ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i’r mater sydd wedi dylanwadu ar Lywodraeth Cymru.

Mae’r uchafbwyntiau eraill yn cynnwys:

  • Cyfleoedd cyffrous i ddod i wybod mwy am brosiect Bryngaer Gudd Treftadaeth CAER, gyda bryngaer Caerau'n ganolbwynt iddo, a chael gafael mewn arteffactau 6,000 o flynyddoedd oed (pabell Prifysgol Caerdydd; dydd Mawrth 28 Mai, 09:30)
  • Cyfle i ddysgu mwy am fywyd myfyrwyr meddygaeth sy’n cael hyfforddiant ar draws Cymru gyda myfyrwyr meddygol presennol o’r Ysgol Meddygaeth (pabell Prifysgol Caerdydd; dydd Iau 30 Mai, 14:30).
  • Sesiwn holi ac ateb gyda graddedigion o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant sy’n dechrau eu gyrfa newyddiaduraeth gyda BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales a Golwg (pabell Prifysgol Caerdydd; dydd Gwener 31 Mai, 11:00).
  • Bydd Ysgol y Gymraeg yn cynnal panel trafod am Gymraeg yn y gweithle a phwysigrwydd cynhyrchu graddedigion yn y maes hwn. Un o gynfyfyrwyr Ysgol y Gymraeg, Rhun ap Iorwerth AC, fydd yn cadeirio’r panel a fydd yn cynnwys Eryl Jones (Cadeirydd Gweithredol, Equinox), Nia Dafydd (Cynhyrchydd Gweithredol, Boom Cymru) a graddedigion diweddar o Ysgol y Gymraeg (pabell Prifysgol Caerdydd; dydd Gwener 31 Mai, 14:30).
  • Cewch gyfle i wrando ar hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd drwy gydol y canrifoedd gyda Dr Dylan Foster-Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg (Adeilad Pierhead; dydd Gwener 31 Mai, 15:30).
  • Dysgwch am fyw ac astudio ym Mhrifysgol Caerdydd (pabell Prifysgol Caerdydd; dydd Iau 30 Mai tan ddydd Sadwrn 1 Mehefin, 09:00 tan 17:00).

Eleni, cynhelir Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd, yr un lleoliad â'r Eisteddfod Genedlaethol hynod lwyddiannus yn 2018.

Mae disgwyl i fwy na 15,000 o bobl ifanc gymryd rhan mewn cystadlaethau sy'n cynnwys canu, dawnsio a pherfformio.

Mae tua 90,000 o ymwelwyr yn dod i Eisteddfod yr Urdd ac mae'n cael ei chynnal mewn lleoliad gwahanol yng Nghymru bob blwyddyn.

Bydd mynediad i'r Maes yn rhad ac am ddim a bydd ffi am fynd i'r prif Bafiliwn a’r rhagbrofion.

2009 yw'r tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Bae Caerdydd.

Mae rhaglen Lawn Prifysgol Caerdydd ar gael ar y dudalen hon

Rhannu’r stori hon

Darganfyddwch ragor am y cyrsiau Cymraeg i Oedolion sydd ar gael.