Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun peilot ynni gwyrdd cyntaf o’i fath

17 Gorffennaf 2018

FLEXIS
From left to right: Ian Wilkinson, Programme Manager, Siemens Corporate Technology; Nick Eyre, Director, Oxford University Energy Research Institute; Phil Bowen, co-Director, Cardiff University, Energy Systems Research Institute; Juergen Maier. Chief Executive Officer, Siemens UK; Karl-Josef Kuhn, Head of Technology (Power-to-X & Storage), Siemens Corporate Technology; Tim Bestwick, Executive Director for Business & Innovation, Science and Technology Facilities Council

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn treialu system newydd sy’n defnyddio amonia fel ffordd o storio ynni.

Mae cyfleuster prawf-o-gysyniad gwerth £1.5m - y cyntaf o’i fath - wedi’i agor yn Harwell, Swydd Rhydychen, i roi technoleg y genhedlaeth newydd ar brawf gyda’r bwriad o greu systemau cynaliadwy newydd sbon i gynhyrchu trydan.

Mae’r prosiect yn cynnwys ymchwilwyr o FLEXIS - proses ymchwil gwerth £24 miliwn sydd wedi’i dylunio i ddatblygu gallu ymchwil systemau ynni yng Nghymru, sy’n seiliedig ar allu ymchwil byd-eang, ar draws Prifysgolion Cymru.

Mae ymchwilwyr FLEXIS yn cydweithio â Siemens, Prifysgol Rhydychen, Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac Innovate UK, i ddatblygu’r dechnoleg.

Dywedodd Dr Agustin Valera, Uwch-ddarlithydd o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd: “Bydd y cyfleuster prawf-o-gysyniad yn Harwell yn profi a all amonia gynnig system ymarferol, y genhedlaeth newydd ar gyfer cludiant ynni, system a chynhyrchu pŵer.

Gall ynni gael ei ryddhau o amonia naill ai yn y ffordd draddodiadol trwy ymlosgiad mewn tyrbin nwy, neu trwy ei ‘gracio’ yn ôl i nitrogen a hydrogen a defnyddio’r hydrogen mewn cell tanwydd - i bweru cerbydau trydan, er enghraifft.

Gellir defnyddio amonia fel tanwydd ar gyfer peiriannau tyrbin nwy gan gynhyrchu trydan ar adegau pan nad yw ynni adnewyddadwy ar gael, ar ddiwrnodau tawel neu yn ystod y nos er enghraifft.

Yn wahanol i hydrogen, sydd wedi’i gymeradwyo ers tro fel tanwydd gwyrdd posibl y dyfodol ond sydd hefyd wedi wynebu rhwystrau o ran ei storio a’i ddosbarthu, mae amonia yn cynnig dwysedd ynni uchel tra’n meddu ar rwydwaith trafnidiaeth sefydledig.

Yn rhan o’r prosiect, mae cyfraniadau Prifysgol Caerdydd wedi cefnogi astudiaethau helaeth ar iechyd a diogelwch ar draws yr holl gydrannau a phecynnau gwaith gwahanol, gan arwain datblygiad a phrofion peiriannau hylosgi mewnol sydd wedi’u tanio gan gymysgedd amonia/hydrogen.

Dywedodd yr Athro Phil Bowen, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy (GTRC) ym Mhort Talbot, Prifysgol Caerdydd: “Mae nifer o’r profion arbrofol a rhifiadol a gynhaliwyd yn y GTRC a’r Labordy Hylifau Thermol yng Nghaerdydd wedi bod yn gerrig milltir allweddol i lwyddiant y prosiect.”

Agorwyd cyfleuster Harwell ar 26 Mehefin, a ariannwyd gyda £500,000 gan Siemens a £1m gan Innovate UK, asiantaeth arloesedd y llywodraeth.

Bydd canfyddiadau’r prosiect yn cyfrannu at Gylchlythyr Cymdeithas Frenhinol ar amonia, gyda Phrifysgol Caerdydd yn gyfrannwr strategol allweddol, a fydd yn cael ei ryddhau erbyn Medi 2018.

Dywedodd Ian Wilkinson, Rheolwr y Rhaglen, Siemens Corporate Technologies:  Mae cyrraedd ein targedau datgarboneiddio yn her fawr i gymdeithas heddiw ac yn gofyn am amrediad o atebion cyfrannol, gan gynnwys amrywiaeth o dechnolegau storio.  Mae gan storio ynni cemegol di-garbon - gan gynnwys Amonia Gwyrdd - y potensial i weithio ochr yn ochr â dulliau storio eraill megis batris, a gall helpu i gynyddu ymdreiddiad pŵer adnewyddadwy i mewn i’n systemau ynni.

“Mae’r arddangoswr hwn, a’r gwaith rydym wedi’i wneud gyda’n cydweithwyr o’r byd academaidd, yn dangos fod Amonia Gwyrdd yn opsiwn hyfyw a gall helpu i leihau allyriadau carbon o brosesau diwydiannol sy’n bodoli eisoes, yn ogystal â darparu ffordd o gludo a storio ynni adnewyddadwy mewn swmp.”

Rhannu’r stori hon