Ewch i’r prif gynnwys

Pedwar o academyddion y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau yn cael eu hethol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru

7 Mai 2019

Learned society of wales

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi enwi pedwar academydd o’r Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau, o gyfanswm o 11 o Brifysgol Caerdydd, ymhlith eu Cymrodyr newydd.

Mae pedwardeg wyth o Gymrodyr newydd wedi ymuno â Chymdeithas Ddysgedig Cymru eleni o feysydd sy’n cwmpasu’r celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a’r tu hwnt. Mae pob un o’r Cymrodyr newydd wedi cyfrannu at fyd dysg fel ymchwilwyr, academyddion, a gweithwyr proffesiynol - ac mae gan bob un ohonynt gysylltiad cryf â Chymru.

“Rydym wrth ein boddau bod cryfder yr ymchwil imiwnoleg ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ei gydnabod gan nid amgen na phedair Cymrodoriaeth newydd yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru, gan ddod â chyfanswm y Sefydliad i naw. Mae’r ffaith bod cynifer o gymrodyr o’r Sefydliad yn gyflawniad sylweddol, a hoffwn longyfarch yn wresog pawb a fu’n llwyddiannus eleni, o’n Sefydliad a’r tu hwnt.”

Yr Athro Valerie O'Donnell Cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau

Cymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru newydd y Sefydliad yw:

Yr Athro Simon Jones

Yr Athro Simon Jones

Chair

Email
jonessa@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7325

Mae Simon wedi arloesi mewn astudiaethau o lid a rheolaeth y system imiwnedd gan broteinau arbenigol a elwir yn gytocinau.  Mae ei ymchwil wedi gwella dealltwriaeth o’r modd y mae cytocinau yn gweithredu mewn iechyd ac afiechyd, gan arwain at ddarganfyddiadau pwysig o ran diagnosio, dosbarthu a thrin cleifion gydag afiechydon llidiol megis arthritis gwynegol.

Yr Athro Ian Weeks

Yr Athro Ian Weeks

Dean of Clinical Innovation

Email
weeksi@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2074 4656

Mae Ian yn ymchwilydd sydd wedi sefydlu enw da yn rhyngwladol, gan ymchwilio, datblygu a chynhyrchu profion diagnostig biocemegol newydd ar gyfer clefydau dynol am dros drideg o flynyddoedd mewn amgylcheddau academig a masnachol, a hefyd yn y GIG. Mae technolegau a ddyfeisiwyd ganddo wedi eu trwyddedu i’w defnyddio gan gwmnïau rhyngwladol yn sylfaen i brofion diagnostig clinigol in vitro, a defnyddir cannoedd o filoedd ohonynt bob blwyddyn ledled y byd.

Yr Athro Susan Wong

Yr Athro Susan Wong

Professor of Experimental Diabetes & Metabolism

Email
wongfs@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7000

Mae Susan yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei gwaith ar y celloedd imiwnedd sy’n gysylltiedig â’r ymosod ar gelloedd sy’n cynhyrchu inswlin yn y pancreas mewn diabetes math 1. Mae ei hymchwil wedi helpu deall y prosesau sy’n arwain at ddatblygiad diabetes math 1 a sut y gellir defnyddio rhai o’r rhain er mwyn datblygu triniaethau imiwnedd at gyfer y cyflwr yn y dyfodol.

Yr Athro Bernhard Moser

Yr Athro Bernhard Moser

Professor

Email
moserb@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7058

Fe wnaeth Bernhard arloesi darganfyddiad proteinau arbenigol yn y llif gwaed a elwir yn gemocinau, a’u derbynyddion ar gelloedd imiwnedd.  Mae’r proteinau hyn yn hanfodol ar gyfer cyfeirio traffig y celloedd imiwnedd drwy’r corff yn ystod iechyd neu afiechyd. Mae darganfyddiadau Bernhard wedi arwain at fewnwelediadau i’r modd y mae ein system imiwnedd yn brwydro yn erbyn clefydau heintus a sut y mae’n cynnal iechyd meinweoedd.

Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiad cyhoeddus o ragoriaeth, ac mae cryn gystadleuaeth; mae’n digwydd wedi archwiliad o gyflawniadau pob enwebai yn eu maes/meysydd perthnasol.

Dywedodd Sir Emyr Jones Parry, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru:

"Mae’n dda iawn gennyf groesawu 48 o Gymrodyr newydd i’r Gymdeithas. Mae eu hetholiad yn cydnabod eu cyflawniadau unigol a’u cyfraniadau i fyd dysg, ac mae’n dda gen i eu bod yn cwmpasu ystod mor eang o ddisgyblaethau ymchwil a’r tu hwnt. Bydd y Cymrodyr newydd hyn yn helpu i gryfhau ein gallu i gefnogi rhagoriaeth ar draws pob maes academaidd ac ar draws bywyd cyhoeddus, yng Nghymru a thramor."

Wedi ei sefydlu yn 2010 mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn defnyddio gwybodaeth ei harbenigwyr i hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli dysgu, a rhoi cyngor polisi annibynnol. Mae’r ychwanegiad blynyddol o Gymrodyr newydd yn helpu’r Gymdeithas i gyflawni’r amcanion hyn.

Etholiad 2019 yw’r nawfed mewn proses dreigl tuag at greu Cymrodoriaeth gref a chynrychioliadol. Bydd ffocws parhaus y Gymdeithas ar ragoriaeth a chyflawniad yn sicrhau bod y Gymrodoriaeth yn cynrychioli’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig o ran dysg.

Rhannu’r stori hon