Ewch i’r prif gynnwys

Graddfa ymyrraeth Rwsia â democratiaeth Ewrop wedi’i datgelu

7 Mai 2019

European flags

Mewn dwy astudiaeth newydd, mae Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi tystiolaeth sy’n dangos bod gan yr Asiantaeth Ymchwil i’r Rhyngrwyd, a gefnogir gan y Kremlin, ddiddordeb hirdymor mewn gwleidyddiaeth ac etholiadau Ewrop.

At ei gilydd, mae’r canfyddiadau yn cynnig arwydd cryf o’r mathau o ymgyrchoedd dros ledaenu twyllwybodaeth a allai dargedu etholiadau Senedd Ewrop 2019 ar 23 Mai.

Er bod ymyrraeth Rwsia ag etholiadau arlywyddol UDA yn 2016 wedi cael cryn sylw, yn adroddiad Robert Mueller Cyngor Arbennig yn ddiweddaraf, nid oeddem yn gwybod cymaint am ymgyrchoedd yr Asiantaeth Ymchwil i’r Rhyngrwyd dros ymyrryd ag Ewrop, hyd yn hyn.

Meddai’r Athro Martin Innes, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch: “Mae ein hadroddiadau yn cynnwys tystiolaeth o diddordeb parhaus a helaeth yng ngwleidyddiaeth Ewrop gan gyfrifon cyfryngau cymdeithasol a gynhelir yn gudd ar ran y Kremlin. Drwy graffu â manylder fforensig ar rai o’r tactegau a’r technegau sy’n ymddangos yn eu hymgyrchoedd hanesyddol dros wyro gwybodaeth, mae’r ymchwil hon yn cynnig cipolygon pwysig ar fygythion a allai beryglu unplygrwydd y broses ddemocratig yn y dyfodol, wrth i etholiadau Ewrop 2019 agosáu.”

Mewn erthygl a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn academaidd Political Quarterly, disgrifir y tair techneg penodol a ddefnyddiwyd i ehangu dylanwad eu hymgyrchoedd i ledaenu twyllwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys ‘prynu dilynwyr ffug’ a defnyddio’r un mathau o dechnegau y mae rhai pobl enwog wedi eu defnyddio ar eu cyfrifon.

Mae ymchwilwyr yn dweud bod eu dadansoddiad wedi’u galluogi i ddod o hyd i batrymau ymddygiad anarferol sy’n gweithredu fel ‘arwyddion’ bod cyfrif o bosibl yn cael ei gynnal gan weithredwr â bwriadau penodol. Mae’r erthygl yn nodi: “Y potensial yw, yn debyg i sut y mae ditectifs heddlu yn defnyddio arwyddion ymddygiadol i broffilio troseddwyr mynych, gellir defnyddio'r fersiwn ddigidol o hyn i ddodo hyd i ddylanwadwyr niweidiol ar-lein.”

Mae’r prif ganfyddiadau o adroddiad ar wahân sydd allan heddiw, The Internet Research Agency in Europe 2014-2016, yn cynnwys:

  • Yn ôl pob golwg, mae cyfrif y mae Twitter wedi canfod ei fod yn “gysylltiedig â’r Asiantaeth Ymchwil i’r Rhyngrwyd” wedi cynnal gweithgareddau rhagchwilio i brosesau etholiadol Senedd Ewrop yng Ngwlad Groeg yn 2014. Anfonodd defnyddiwr y cyfrif hwn negeseuon sy’n cynnwys ffotograffau o orsafoedd pleidleisio, lluniau a gymerwyd y tu mewn i orsafoedd pleidleisio o flychau pleidleisio a phapurau pleidleisio, yn ogystal â straeon ysgrifenedig o ryngweithio â swyddogion etholiadol. Hefyd, mae’n edrych fel bod defnyddiwr wedi teithio i sawl gwlad arall hefyd, gan gynnwys yr UD, yr Eidal, Norwy, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Israel, Gwlad Thai, Malaysia, yr Aifft, Hong Kong ac Awstria.
  • Yn 2014, cyhoeddodd yr Asiantaeth Ymchwil i’r Rhyngrwyd bron ddau filiwn o drydariadau yn Rwseg, ond erbyn 2016, roedd y nifer hwn wedi gostwng i lai na hanner miliwn.  Saesneg oedd y brif iaith oedd yn cael ei defnyddio erbyn 2016, ond roedd yr Asiantaeth yn arbrofi drwy ddefnyddio Almaeneg, Arabeg, Bwlgareg, Estoneg, Ffrangeg, Eidaleg, Romaneg a Sbaeneg wrth iddynt ymddiddori fwyfwy mewn dylanwadu ar gynulleidfaoedd ar draws sawl gwlad Ewropeaidd. Roedd nifer o’r cyfrifon Saesneg ac Almaeneg yn ymddiddori mewn Brexit yn arbennig.
  • Ar sail y deunyddiau’r oedd Twitter wedi canfod eu bod yn gysylltiedig â chyfrifon yr Asiantaeth, fe wnaeth 1,380 o gyfrifon yr Asiantaeth drydar dros filiwn a hanner o weithiau drwy gydol 2016.
  • Yn ystod 2014, roedd y rhan fwyaf o’r cyfrifon hyn yn ymwneud â’r gwrthdaro yn Wcráin a chyfeddiannu Crimea. Mae’n ymddangos mai dyma gyfnod allweddol o ehangu graddfa a dwyster gweithgareddau’r Asiantaeth.

Dywedodd yr Athro Innes: “Gyda’r ddwy astudiaeth fanwl hyn, rydym yn amlwg wedi gwella ein dealltwriaeth o sut mae’r Asiantaeth Ymchwil i Ryngrwyd St-Petersburg wedi dylunio a chyflwyno’i gweithrediadau dylanwad-gwybodaeth, a sut y mae eu diddordebau a’u gweithgareddau wedi datblygu dros amser. Mae hyn yn cynnwys y ffyrdd y mae eu tactegau ar y cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn fwyfwy soffistigedig, wedi’u rhoi ar waith dros nifer o wledydd yn Ewrop, ac wedi canolbwyntio ar ystod o ddigwyddiadau gwleidyddol proffil uchel.”

Gallwch ddarllen yr erthygl yn Political Quarterly, o dan y teitl:  How Russia’s Internet Research Agency Built its Disinformation Campaign, yma. 

Mae copïau o’r adroddiad The Internet Research Agency in Europe 2014-2016 ar gael yma.

Rhannu’r stori hon