Ewch i’r prif gynnwys

Mae adroddiad yn dangos bod busnesau sy'n croesawu technolegau digidol yn dangos mwy o wydnwch wrth i ansicrwydd Brexit barhau.

1 Mai 2019

Person working at PC

Mae technolegau newydd yn rhoi hwb oedd fawr ei angen i fusnesau yng Nghymru tra bod cwestiynau dros Brexit yn parhau, yn ôl ymchwilwyr.

Gwnaeth academyddion o Uned Ymchwil Economi Cymru Prifysgol Caerdydd gynnal arolwg o 479 o fusnesau bach a chanolig (BBaChau) yn rhan o Arolwg Aeddfedrwydd Digidol 2018. Maent yn dweud bod y canlyniadau'n dangos cysylltiad clir rhwng llwyddiant busnes a'r defnydd o gyfleoedd digidol newydd.

Mae'r ymchwil yn dangos bod mwy na hanner (52%) y busnesau sy'n defnyddio band eang cyflym iawn yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd mewn elw, o'i gymharu â 41% yn 2017. Roedd bron i hanner (42%) o'r rhai a holwyd wedi dweud bod defnyddio band eang cyflym iawn wedi gwella eu trosiant, o'i gymharu â 40% y llynedd. Gwelodd chwarter (24%) o'r busnesau gynnydd yn nifer y bobl yr oeddent yn eu cyflogi, o'i gymharu â 12% yn 2017.

Yn ogystal â chyflwyno band eang cyflym iawn i fusnesau drwy raglen Cyflymu Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn helpu BBaChau i ddeall, mabwysiadu a defnyddio’r manteision y mae band eang cyflym yn eu cynnig drwy ei gynllun Cyflymu Cymru i Fusnesau.

Dywedodd yr Athro Max Munday, sydd wedi'i leoli yn Ysgol Busnes Caerdydd: "Roedd busnesau'n wynebu amodau masnachu anodd y llynedd, yng nghyd-destun y cwestiynau parhaus ynghylch pa effaith allai Brexit ei chael. Ond er gwaethaf hyn, nododd llawer o BBaChau a oedd yn croesawu technolegau newydd eu bod yn fwy cynhyrchiol.

"Wrth edrych tua'r dyfodol ac wrth i'r broses o adael yr UE barhau i greu heriau, gallai'r BBaChau digidol aeddfed hyn fod yn fwy gwydn ac mewn sefyllfa well i dyfu allforion, mewn sefyllfa well i osgoi costau trafodion tramor, ac yn fwy hyddysg am gyfleoedd tramor."

Mae'r astudiaeth, y trydydd o'i bath, yn awgrymu bod y rhan fwyaf ‘r BBaChau yng Nghymru yn defnyddio band eang cyflym iawn drwy gysylltiadau llinell sefydlog, a bod nifer cynyddol yn dewis hyn. Mae’r dadansoddiad yn dangos bod 53% o'r rhai a arolygwyd yn 2018 wedi defnyddio band eang cyflym iawn – i fyny o 42% yn y flwyddyn flaenorol.

Dim ond 1% o'r BBaChau a ddywedodd nad oedd ganddynt unrhyw fand eang, o'i gymharu â 3% yn y flwyddyn flaenorol.
Mae'r ymchwil hefyd yn dangos bod nifer cynyddol o BBaChau yn nodi eu bod yn parhau i ddefnyddio gwasanaethau cwmwl, gyda 72% o BBaChau bellach yn defnyddio o leiaf un math o wasanaeth cyfrifiadura cwmwl uwch – i fyny o 60% yn 2017.

Ychwanegodd yr Athro Munday: "Mae'r canlyniadau o'n hadroddiad diweddaraf yn awgrymu bod cysylltedd band eang sefydlog bellach yn gyffredin ymhlith BBaChau yng Nghymru a bod llawer o fusnesau – yn wledig ac yn drefol – yn defnyddio offer digidol er mantais iddynt.

"Bydd ein gwaith parhaus i ddadansoddi eu gweithgareddau yn ystod 2019 yn rhoi dealltwriaeth well i ni o'r berthynas rhwng y technolegau newydd hyn a thwf busnes."

Mae'r adroddiad llawn ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.