Ewch i’r prif gynnwys

Deiet iachus yn ystod beichiogrwydd yn lleihau’r risg o gael babi bach yn sylweddol

11 Ebrill 2019

Newborn baby in crib

Mae deiet iachus yn ystod beichiogrwydd yn lleihau’r risg o eni babi bach yn sylweddol, yn ôl astudiaeth newydd a gynhaliwyd yn ne Cymru.

Meddai’r Athro Ros John o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd, a arweiniodd yr astudiaeth: “Mae ein canfyddiadau’n awgrymu y gallem, drwy ganolbwyntio ein cefnogaeth i annog arferion bwyta mwy iachus mewn ardaloedd penodol yng Nghymru, leihau nifer y babanod sy’n pwyso’n llai ac sydd â’r cymhlethdodau iechyd cysylltiedig. Bydd hyn yn helpu i wella deilliannau babanod a’u mamau yn y dyfodol.”

Dyma’r astudiaeth gyntaf o’i math yng Nghymru, a'r un gyntaf i ddefnyddio canraddau wedi’u haddasu’n llawn ar gyfer pwysau geni. Mae’r astudiaeth newydd yn cynnig trosolwg mwy cywir o bwysau geni babanod, gan gyfrif am ffactorau a allai effeithio ar dwf, megis taldra, pwysau ac ethnigrwydd y fam, oedran y babi adeg ei enedigaeth a rhyw’r ffetws.

Mae ystadegau diweddar yn dangos bod bron i 7% o fabanod a anwyd yng Nghymru â phwysau geni isel, a gwelir amrywiaeth sylweddol ar draws y byrddau iechyd. Mae gan y babanod hyn risg fwy o forbidrwydd a marwolaethau tra’u bod yn fabanod newydd-anedig, yn ogystal â deilliannau niwrowybyddol gwael, a chymhlethdodau iechyd tra’u bod yn oedolion, megis clefyd y galon, strociau a diabetes. Mae mamau sy’n geni baban sy'n pwyso llai yn wynebu risg fwy o ddatblygu clefyd cardiofasgwlar yn y dyfodol hefyd.

Ar sail canraddau wedi’u haddasu ar gyfer pwysau geni babanod, gellir pennu babanod yn ‘fach am eu hoedran’, ‘yn ganolig am eu hoedran’ neu ‘yn fawr am eu hoedran’.

“Er mwyn deall effaith deiet y fam ar y pwysau geni, gofynnon ni i dros 300 o fenywod beichiog yn ne Cymru lenwi holiadur ynghylch pa mor aml maent yn bwyta, y bore cyn cael toriad Cesaraidd dewisol,” esboniodd yr Athro John.

“Yna, dadansoddon ni’r ymatebion hyn ochr yn ochr â data ychwanegol am ddeilliannau genedigaethau a beichiogrwydd a gafwyd gan nodiadau meddygol y cyfranogwyr.

“Gwelsom fod y mamau hynny sy’n ymlynu wrth batrwm deietegol ‘ymwybodol o iechyd’ gryn dipyn yn llai tebygol o eni babi sy’n fach am ei oedran.”

Cafodd y papur ‘The Grown in Wales Study: Examining dietary patterns, custom birthweight centiles and the risk of delivering a small-for-gestational age (SGA) infant’ ei gyhoeddi yn PLOS ONE.

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil