Ewch i’r prif gynnwys

Genynnau'r tad yn gallu effeithio ar gariad mamol

3 Awst 2018

Image of a baby with the mother's hand holding its hand

Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd wedi newid y syniad mai gosod cynllun ar gyfer twf a datblygiad plentyn yw unig swyddogaeth genynnau tadau, drwy ganfod bod genynnau tadau'n effeithio ar y math o ofal y mae plentyn yn ei gael cyn iddo gael ei eni hyd yn oed.

Cynhaliodd tîm o ymchwilwyr o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd ymchwiliad i'r signalau hormonaidd y mae'r brych yn eu rhyddhau yn ystod beichiogrwydd.

Mae'r brych yn cludo maetholion i'r ffetws sy'n tyfu yn ystod beichiogrwydd, ac yn rhyddhau signalau hormonaidd yn llif gwaed y fam er mwyn sefydlu a chynnal beichiogrwydd llwyddiannus. Yn ogystal â chwarae rhan yn y broses o gynnig maeth drwy gydol y beichiogrwydd, credir bod signalau'r brych yn bwysig ar gyfer llywio ymddygiad y fam, a'i pharatoi ar gyfer ei rôl newydd fel mam.

Dywedodd yr Athro Rosalind John, o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: "Rydym wedi dangos bod genynnau'r tad, a fynegir yn y brych, yn gallu newid signalau hormonaidd i'r fam, gan ddylanwadu ar sut y bydd y fam yn ymddwyn tuag at y babi ar ôl iddo gael ei eni.

"Gwelsom fod y fam yn treulio mwy o amser yn gofalu am ei phlentyn pan fydd genynnau'r tad yn achosi cynnydd yn y signalau hormonaidd hyn. Ond bydd mamau sy'n cael lefelau is o'r signalau hyn yn treulio llai o amser ar dasgau cadw tŷ."

Mae newidiadau ym mlaenoriaethau'r fam yn ystod y beichiogrwydd ac ar ôl rhoi genedigaeth yn bwysig ar gyfer lles y baban newydd a'i iechyd gydol oes. Gall menywod nad ydynt yn mynd drwy'r newidiadau hyn ei chael hi'n anodd datblygu cysylltiad mamol â'u babanod. Mae gan fabanod nad ydynt yn cael gofal mamol o ansawdd uchel ar ddechrau eu bywyd risg uwch o gael anhwylderau niwroddatblygiadol ac yn fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl pan fyddant yn hŷn.

"Mae ein gwaith blaenorol wedi dangos bod genyn brychol tebyg yn gysylltiedig ag iselder cyn-geni, ac ar hyn o bryd rydym yn gofyn a yw newidiadau genynnol tebyg wedi eu cysylltu â gofal mamol o ansawdd gwael yn Astudiaeth Tyfu yng Nghymru," ychwanegodd yr Athro John. "Mae'n rhaid i ni wneud rhagor o waith i wella ein dealltwriaeth o sut mae hyn yn gweithio mewn bodau dynol."

Mae'r ymchwil ‘Maternal care boosted by paternal imprinting in mammals’ wedi'i chyhoeddi yn PLOS Biology.

Rhannu’r stori hon