Ewch i’r prif gynnwys

Ymweliad rhyngwladol gan Brifysgol Campinas

10 Ebrill 2019

Professor De Biaggi with Gina Bertorelli and Angharad Croot
Yr Athro De Biaggi gyda Gina Bertorelli ac Angharad Croot

Yn ddiweddar bu dau athro o Brifysgol Campinas (UniCAMP), Brasil, yn ymweld â’r Ysgol Gerdd i rannu eu harbenigedd ac arwain y myfyrwyr mewn gweithdy.

Bu’r Athro Emerson De Biaggi, sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth siambr ac i’r fiola, a’r Athro Fernando Hashimoto, sy’n arbenigo mewn offer taro ac sydd ar hyn o bryd yn Ddirprwy Reithor Estyn a Diwylliant, yn ymweld â’r Ysgol ddydd Gwener 5 Ebrill.

Rhoddodd yr Athro De Biaggi ddarlith a datganiad ar weithiau o Frasil ar gyfer fiola digyfeiliant, gan gyflwyno repertoire gan gyfansoddwyr cyfoes a diweddar o Frasil, gan gynnwys Marlos Nobre, César Guerra-Peixe, ac Ernani Aguiar. Yn ogystal ag arddangos amrywiaeth o arddulliau cerddorol, bu’r Athro De Biaggi hefyd yn rhannu hanesion o’i brofiad o gwrdd â rhai o’r cyfansoddwyr a drafodwyd.

Yna arweiniodd yr Athro De Biaggi ddau fyfyriwr, Gina Bertorelli ac Angharad Croot, mewn dosbarth meistr i’r fiola gyda pherfformiadau o symudiadau o Sonata Rebecca Clarke i’r Fiola.

Dywedodd Dr Cameron Gardner, o’r Ysgol Gerdd, am y dosbarth: “Roedd cynhesrwydd a sensitifrwydd yr Athro De Biaggi wrth gyfleu ei syniadau ar gyfer gwella’r defnydd o’r bwa a thaflu’r sain yn gweddu’n berffaith i’r berthynas gynnes, agored sydd wedi datblygu rhwng ein dau sefydliad cerddorol.”

Professor De Biaggi with Dr Cameron Gardner, Gina Bertorelli and Angharad Croot
Dr Cameron Gardner gyda'r Athro De Biaggi a'r myfyrwyr Gina Bertorelli ac Angharad Croot

Yr ymweliad hwn oedd ail ymweliad UniCAMP â’r Ysgol Gerdd. Bu’r Athrawon Jônatas Manzolli o’r Adran Gerdd a Mariana Baruco o Adran y Celfyddydau Cydweithredol yn ymweld â’r Ysgol ym mis Mehefin 2018.

Roedd y cyswllt cychwynnol hwn yn cynnwys wythnos gyffrous o gyfnewid ymchwil, cyfansoddi a pherfformio, gyda chyflwyniadau oedd yn cynnig cyfleoedd i bob sefydliad yn ei dro ddysgu gan y llall, a chynllunio ar gyfer ymweliadau a chydweithio yn y dyfodol.  Hefyd cynhaliwyd cyfarfodydd a sgyrsiau rhwng cyfansoddwyr ôl-raddedig ac israddedig o’r Ysgol Gerdd a’r Athro Manzolli.

Daeth digwyddiadau’r wythnos i ben â chyflwyniad cyhoeddus, gyda’r Athro Manzolli o UniCAMP a Dr Pedro Faria Gomes o’r Ysgol Gerdd yn trafod cyfansoddiadau diweddar ac yn rhannu dyfyniadau a recordiwyd.

Ochr yn ochr â’r ymweliad diweddaraf, mae’r Ysgol Gerdd wedi ysgrifennu llythyrau gwahoddiad, yn annog ymweliadau pellach gan Athrawon o UniCAMP sydd â diddordeb mewn ceisio cydweithio agosach ym meysydd ymchwil, perfformio a chyfansoddi.

Dywedodd yr Athro Gardner am drefniadau cydweithio i’r dyfodol “Wrth i ymwelwyr o UniCAMP dreulio sawl wythnos yn yr Ysgol yn ystod y blynyddoedd nesaf, mae’n sicr y gwelwn brosiectau mwy cynhyrchiol a hirhoedlog, fydd yn arwain at y posibilrwydd o ymweliadau gan staff a myfyrwyr o’r Ysgol Gerdd â UniCAMP.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.