Ewch i’r prif gynnwys

Rôl ymgynghorol gyda'r ESRC i arbenigwr o Gaerdydd

10 Ebrill 2019

Man sat smiling at table

Mae'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) wedi penodi Deon Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesedd y Brifysgol i'w Rwydwaith Ymgynghorol Strategol.

Bydd Rick Delbridge, Athro Dadansoddiad Sefydliadol yn Ysgol Busnes Caerdydd, yn ymuno ag ugain o aelodau eraill, yn cynnwys arbenigwyr blaenllaw o'r cymunedau academaidd a defnyddwyr, i gynorthwyo'r ESRC i fanteisio ar gyfleoedd a gwrando ar lais ac arbenigedd ei gymunedau.

Mae'r Rhwydwaith yn adnodd hyblyg, sy'n galluogi'r Weithrediaeth i sicrhau'r cyngor sydd ei angen arni mewn modd amserol, gan dynnu ar amrywiol safbwyntiau ar draws ein grwpiau o randdeiliaid allweddol gan gynnwys y byd academaidd, busnes, y trydydd sector a'r Llywodraeth.

“Mae gwyddorau cymdeithasol yn ganolog i ddeall sut mae cymdeithas yn gweithio ac yn greiddiol i'n hiechyd, cyfoeth a ffyniant yn y dyfodol. Mae gan yr ESRC ran hanfodol i’w chwarae yn cyllido ymchwil economaidd a chymdeithasol, a hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.”

Yr Athro Rick Delbridge Professor of Organizational Analysis

“Bydd cael cefnogi'r genhadaeth hon fel rhan o'r Rhwydwaith Ymgynghorol Strategol, ochr yn ochr ag aelodau sydd ag amrywiaeth o arbenigeddau, yn fraint.”

Mae'r Rhwydwaith yn darparu:

  • cymorth a chyngor arbenigol gan gynnwys ar gynllunio strategaethau a chynlluniau, rheoli buddsoddiadau, cyn ac ar ôl dyfarniadau, ac ymyriadau
  • persbectif eang o gyngor ar faterion, cynigion a phenderfyniadau, gan gynnwys adborth ar safbwyntiau o fewn ein hamrywiol grwpiau o randdeiliaid
  • mynediad at gronfa o arbenigwyr o blith academyddion a defnyddwyr y gall y swyddfa droi atynt am gyngor ad-hoc ac eiriolaeth ac i brofi syniadau newydd
  • cyfrannu at gyngor polisi cyffredinol

Ymhlith yr aelodau sydd newydd eu penodi i'r Rhwydwaith gyda'r Athro Delbridge mae ymgynghorwyr annibynnol, cynrychiolwyr y llywodraeth, cyfreithwyr proffesiynol ac academyddion o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ceir rhestr lawn o'r un ar hugain o benodiadau newydd ar wefan yr ESRC.

Bydd yr aelodau newydd yn ymgymryd â'r penodiad ar 1 Ebrill 2019.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn datblygu’r campws ar hyn o bryd yn rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth - buddsoddiad o £600m yn ein dyfodol.