Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn ennill arian sbarduno ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

25 Mawrth 2019

CS

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cael £50 mil o gyllid sbarduno i gefnogi datblygiad y clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, gyda chyfle i ennill hyd at £50 miliwn i hybu cyfoeth y rhanbarth.

Bydd y dyfarniad, sydd yn ei gamau cynnar, gan Gronfa Cryfder mewn Lleoedd Innovate UK, yn dod â deg sefydliad o ledled de Cymru ynghyd.

Bydd y Brifysgol yn gweithio ar y cyd â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, CS Applications Catapult, CSC Cyf, IQE, Microsemi, Newport Wafer Fab, SPTS Cyf, Prifysgol Abertawe a Llywodraeth Cymru.

Ar draws y DU, bydd 24 o fentrau’n cael cyllid sbarduno. Bydd pob prosiect yn datblygu ceisiadau i’w cyflwyno i Ymchwil ac Arloesedd y DU am ddyfarniadau mwy byth ar ddiwedd 2019.

Yna, caiff pedwar i wyth o’r cryfaf rhwng £10 miliwn a £50 miliwn i gynnal prosiectau sydd wedi’u dylunio i sbarduno twf economaidd sylweddol.

Meddai’r Athro Rudolf Allemann, Rhag Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae gan y diwydiant lled-ddargludyddion y cryfder i hybu cyfoeth economaidd a chymdeithasol ar draws de Cymru. Mae’n sail i gadwyni cyflenwi gweithgynhyrchu gwerthfawr a gallai greu swyddi sgilgar gyda chyflogau da. Bydd ein prosiect Cryfder mewn Lleoedd yn atgyfnerthu Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ne Cymru ac yn hyrwyddo cysylltiadau newydd â diwydiant ehangach y DU.”

Cyhoeddwyd y dyfarniad gan y Gronfa Cryfder mewn Lleoedd yn y Strategaeth Ddiwydiannol ym mis Tachwedd 2017. Bydd y Gronfa o fudd i bob cenedl a rhanbarth yn y DU, drwy eu helpu i fanteisio ar yr ymchwil flaengar a’r gallu arloesol ledled y wlad.

Mae’r gronfa’n dod â sefydliadau ymchwil, busnesau, ac arweinwyr lleol ynghyd ar brosiectau fydd yn hybu’r economi’n sylweddol, yn creu swyddi gwerthfawr ac yn sbarduno twf rhanbarthol.

Meddai Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesedd y DU, yr Athro Syr Mark Walport:  ‘Ein gweledigaeth glir yw gwneud yn siŵr bod pawb yn elwa ar wybodaeth, talent a syniadau. Bydd cefnogaeth sylweddol drwy’r Gronfa Cryfder mewn Lleoedd yn rhoi hwb i botensial economaidd ar draws y wlad ymhellach drwy ddod ag ymchwilwyr, diwydiant ac arweinwyr rhanbarthol ynghyd i sbarduno twf parhaus drwy ymchwil ac arloesedd ar flaen y gad yn fyd-eang.

Mae’r pedwar prosiect ar hugain yn cwmpasu’r DU gyfan, ac mae pob cenedl a rhanbarth wedi’i chynrychioli.

Meddai arweinydd Cronfa Cryfder mewn Lleoedd UKRI, David Sweeney: ‘Mae ymchwil, datblygiadau ac arloesedd sydd ar flaen y gad yn fyd-eang yn cael eu cynnal ar draws y DU. Mae’r rhain yn cynnwys ymchwil ragorol mewn adrannau prifysgol a sefydliadau ymchwil cyhoeddus, i fentrau gan fusnesau sy’n edrych tuag at y dyfodol. Bydd Cronfa Cryfder mewn Lleoedd Ymchwil ac Arloesedd y DU yn manteisio ar y cryfderau hyn ac yn meithrin yr ecosystemau lleol sy’n gallu cefnogi arloesedd a thwf parhaus. Bydd hyn yn cryfhau cydweithredu rhwng diwydiant a’n sylfaen ymchwil sy’n flaengar ar lefel fyd-eang.”

Rhannu’r stori hon

The institute provides cutting-edge facilities to help researchers and industry work together.