Ewch i’r prif gynnwys

Mynegai Cystadleurwydd y DU yn dangos darlun economaidd llwm ar gyfer ardaloedd y tu allan i Lundain

21 Mawrth 2019

English housing estate from the air

Bydd dirywiad mewn twf economaidd yn rhannau sylweddol o Brydain dros yr ugain mlynedd nesaf, yn ôl astudiaeth.

Mae rhifyn 2019 o Fynegai Cystadleurwydd y DU yn cael ei lunio gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ac Ysgol Busnes Nottingham. Yn ogystal ag asesu pa mor gystadleuol yw ardaloedd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban heddiw, lluniwyd rhagolygon o ddata i ragfynegi sut y byddant yn llwyddo yn y blynyddoedd i ddod.

Trwy ganolbwyntio ar ardaloedd awdurdodau lleol, mae'r dadansoddiad yn cynnig y cipolwg mwyaf manwl hyd yn hyn ar ragolygon economaidd y DU. Mae'n canfod y bydd y rhaniad cystadleuol rhwng Llundain a rhannau eraill o'r DU hyd yn oed yn ehangach dros y ddau ddegawd nesaf.

Mae Merthyr Tudful yn Ne Cymru ar fin profi'r dirywiad economaidd mwyaf, oherwydd rhagwelir bydd Cynnyrch Domestig Gros (GDP) y pen - mesur o iechyd yr economi - yn gostwng 0.56% bob blwyddyn. Y tu ôl i Ferthyr Tudful mae Mansfield yng nghanolbarth Lloegr (-0.48%) a Thanet (0.34%) yng Nghaint.

Rhagwelir mai Tower Hamlets yn Llundain fydd yr ardal sy'n tyfu gyflymaf, a rhagwelir y bydd ei GDP y pen yn codi 7.17% bob blwyddyn. Dilynir hyn gan Camden (6.97%) ac Islington (6.52). Mewn sefyllfa economaidd pan fydd twf economaidd yn gostwng yn gyflym yn seiliedig ar ddirwasgiad newydd neu amodau masnachu negyddol os na fydd cytundeb ynghylch Brexit, mae ymchwilwyr yn amcangyfrif mai dim ond y tair bwrdeistref yn Llundain fyddai'n cyflawni twf economaidd dros y pum mlynedd nesaf, gan adael gweddill y DU ar ei hôl hi.

Meddai'r Athro Robert Huggins, sydd wedi'i leoli yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: “Mae'r ymchwil hon yn cyflwyno'r darlun mwyaf helaeth o heriau economaidd y DU yn y dyfodol. Mae'n amlwg beth bynnag sy'n digwydd dros yr wythnosau nesaf, bydd y bwlch cystadleurwydd rhwng Llundain a rhannau eraill o'r DU yn cynyddu. Mae’r rhain yn faterion fydd yn cael eu gwaethygu os na fydd cytundeb ynghylch Brexit.

Professor Robert Huggins

Bydd ardaloedd fel Llundain, sef yr arweinwyr cystadleuol, yn wynebu perygl o fod yn llai fforddiadwy ac yn llai hygyrch i'r mwyafrif. Ar y llaw arall, bydd rhannau o'r DU yn dod o dan anfantais gynyddol oherwydd diffyg cyfleoedd i dyfu.

Yr Athro Robert Huggins, Professor of Economic Geography

Mae Mynegai Cystadleurwydd y DU yn mesur cystadleurwydd economaidd cyfredol ar draws ardaloedd lleol a rhanbarthol Prydain ar sail detholiad o ddangosyddion perfformiad*. Daw i’r amlwg mai yn Llundain y mae naw o'r awdurdodau lleol mwyaf cystadleuol Prydain. Dinas Llundain sydd ar y brig, ac yna Westminster, Camden ac Islington.

Blaenau Gwent ac Ynys Môn, yn y drefn honno, yw’r lleoliadau lleiaf cystadleuol yng Nghymru a Mansfield yw'r lle lleiaf cystadleuol yn Lloegr. Yn gyffredinol, mae ardaloedd yn yr Alban wedi perfformio’n llwyddiannus yn y rhestr gyda dinas Aberdeen ar y brig, a Dumfries a Galloway yw'r lleiaf cystadleuol.

Yn ogystal â Llundain, mae llawer o gystadleurwydd y DU wedi'i grynhoi mewn ardaloedd trefol fel Bryste, Manceinion, a Chaerdydd. Ar ôl bwrdeistrefi Llundain, St Albans, sydd wedi elwa ar gynnydd yn ei arbenigedd diwydiannol, yw'r ddinas fwyaf cystadleuol nesaf.

Y lleoedd sydd wedi gweld y gwelliannau mwyaf mewn cystadleurwydd ers 2015 yw Bromsgrove yng ngorllewin canolbarth Lloegr, Luton yn nwyrain Lloegr a Charnwood yn nwyrain canolbarth Lloegr. Mae Bolsover ac Eastbourne wedi gweld rhai o'r gostyngiadau mwyaf mewn cystadleurwydd, oherwydd diffyg busnesau newydd cynaliadwy a'r buddsoddiad sydd ei angen i sefydlu diwylliant o entrepreneuriaeth.

Ychwanegodd yr Athro Huggins: “Er mwyn gwneud yn siŵr bod pob rhan o economi'r DU yn goroesi yn yr amodau anodd hyn, mae angen i lywodraethau a llunwyr polisïau weithredu ar frys. Mae ein data a gasglwyd yn ystod y ddau ddegawd diwethaf yn dangos sut y gall diffyg gweithredu cadarnhaol arwain at ganlyniadau parhaol a difrifol.”

Mae’r adroddiad ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwe'r Ysgol.