Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd i drigolion Grangetown

20 Mawrth 2019

Girls getting careers advice

Gwahoddir trigolion o ardal Grangetown Caerdydd i ddysgu mwy am gyrsiau a gyrfaoedd a gynigir gan Brifysgol Caerdydd.

Mae’r Brifysgol yn cynnal ei Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl blynyddol yn rhan o’i phrosiect Porth Cymunedol, sy’n ffynnu.

Cynhelir gweithgareddau yn Hyb Grangetown yn Havelock Place, Grangetown, tan ddydd Gwener 22 Mawrth 2019.

Dyma’r rhaglen ar gyfer pob dydd:

  • Dydd Llun 18 Mawrth: Cyfleoedd gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd (15:00-18:00)
  • Dydd Mercher 20 Mawrth: Cefnogaeth a gwybodaeth ynghylch gwneud cais i astudio ein cyrsiau (15:00-18:00)
  • Dydd Gwener 22 Mawrth: Gwybodaeth am swyddi’r diwydiant adeiladu, yn ogystal â gwybodaeth gan staff academaidd am bynciau a chyfleoedd STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) (15:00-18:00)

Croesawir ymwelwyr hefyd i gofrestru ar gyfer diwrnod agored Prifysgol Caerdydd ar 27 Mawrth. Bydd trafnidiaeth am ddim ar gael o Grangetown.

Mae’r Porth Cymunedol, sydd eisoes wedi lansio dros 50 o brosiectau rhwng y Brifysgol a'r gymuned, yn gweithio law yn llaw â thrigolion a sefydliadau lleol i helpu i wneud Grangetown yn lle hyd yn oed yn well i fyw a gweithio ynddo.

Mae’r prosiect yn rhan o genhadaeth ddinesig y Brifysgol, sydd â’r nod o gefnogi gwelliannau yn ein cymunedau mewn meysydd megis addysg, iechyd a lles.

Mae cymuned Grangetown yn ceisio adeiladu canolfan gymunedol newydd gwerth £1.6m yng Ngerddi Grange drwy gymorth partneriaid Prosiect Pafiliwn y Grange a Gweithredu Cymunedol Grangetown a chefnogaeth Prifysgol Caerdydd.

Mae tua 80% o’r targed wedi’i gyflawni, gan gynnwys £1m gan Gronfa Loteri Fawr Cymru, ond mae trefnwyr yn apelio am gefnogaeth i wireddu eu breuddwyd.

Rhannu’r stori hon

Could your research, teaching or skills support this idea? We want your help to develop projects in Grangetown.