Ewch i’r prif gynnwys

‘Trobwynt’ ar gyfer trin lewcemia lymffosytig cronig

4 Mawrth 2019

Telomore

Mae'r prawf cyntaf sy’n rhagfynegi yn gyflym ac yn gywir sut fydd pobl yn ymateb i driniaeth safonol ar gyfer y math mwyaf cyffredin o lewcemia wedi'i ddatblygu ym Mhrifysgol Caerdydd. Gallai'r dechnoleg hon lywio penderfyniadau meddygon ynghylch pa gyffuriau i'w rhoi i gleifion.

Mae ymchwilwyr Caerdydd yn dweud y gallai'r prawf hwn 'newid y gêm' o ran trin lewcemia lymffosytig cronig (CLL). Hefyd, gallai newid y ffordd y caiff canserau eraill, gan gynnwys myeloma a chanser y fron, eu trin. Tra bo fersiynau blaenorol o'r prawf wedi cymryd wythnos i'w prosesu, gall y canlyniadau nawr fod yn barod ymhen diwrnod.

Cyhoeddir yr ymchwil, a gyllidwyd gan yr elusen ymchwil canser Bloodwise, yn y cyfnodolyn Leukemia.

Mae CLL yn ganser y gwaed sy'n datblygu'n araf gyda'r cleifion yn cynhyrchu fersiynau o gelloedd gwaed gwyn sydd wedi mwtanu ac sy'n cronni yn y gwaed, ym mêr yr esgyrn ac yn y nodau lymff gan rwystro'r celloedd gwaed iach.

Mae CLL yn datblygu ar gyflymder gwahanol mewn gwahanol bobl ac mewn traean o gleifion, nid yw'n datblygu o gwbl.  Hyd yma, ni chafwyd prawf cywir y gellir ei ddefnyddio i nodi a fydd canser claf unigol yn datblygu, a pha mor gyflym.

Mae'r prawf 'STELA' mewnbwn uchel a ddatblygwyd yng Nghaerdydd yn mesur hyd adrannau o DNA mewn celloedd canser a elwir yn delomerau (telomeres), a geir ar ddiwedd cromosomau. Mae telomerau yn gweithredu yn yr un ffordd â blaenau plastig amddiffynnol ar bennau careiau esgidiau, i atal pen y cromosom rhag 'rhaflo'.

Mae telomeres yn byrhau bob tro fydd cell yn rhannu i greu cell newydd ac yn y pen draw mae pen y cromosom yn agored - gan arwain at ddifrod helaeth i DNA, sy'n cyflymu cynnydd y canser.

Mae ymchwilwyr Caerdydd wedi dangos bod pobl y mae eu telomerau’n fyr iawn ar adeg eu diagnosis yn llawer mwy tebygol o gael canser sy'n datblygu'n gyflym.

Defnyddiwyd y prawf STELA wedi'i wella i ddadansoddi samplau o 260 o gleifion i weld a allai ragfynegi sut y byddai cleifion yn ymateb i gemotherapi dwys gydag imiwnotherapi.  Dangosodd y prawf fod pobl â thelomerau byr yn cael ail bwl lawer yn gynt ar ôl triniaeth na chleifion â thelomerau hir – 3.7 blynedd ar ôl triniaeth ar gyfartaledd, o'i gymharu â 5.5 mlynedd.

Mae'n wybyddus fod deilliannau cleifion â chelloedd canser sy'n cynnwys mwtadiadau i'r genyn IGHV yn well na chleifion heb y mwtadiad genetig hwn. Canfuwyd bod y prawf STELA yn fwy cywir wrth ragfynegi ail bwl na phrofi am y mwtadiad IGHV neu unrhyw brawf prognostig neu ragfynegol arall.

Dywedodd yr Athro Duncan Baird, a ddatblygodd y prawf yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd gyda'r Athro Chris Fegan a’r Athro Chris Pepper: "Nid yw pob claf yn cael yr un budd o gemotherapi a'r prawf hwn yw'r unig un sydd ar gael a all ragfynegi'n gywir sut mae cleifion yn debygol o ymateb. Mae ein hymchwil yn cynnig tystiolaeth gref y dylai nifer sylweddol o gleifion dderbyn triniaethau mwy priodol."

Dywedodd Alasdair Rankin, Cyfarwyddwr Ymchwil elusen Bloodwise: "Gall pobl â CLL brofi pryder ac ansicrwydd dwys ynghylch y ffordd y bydd eu canser yn datblygu. Gallai'r prawf hwn roi sicrwydd i bobl y byddant yn derbyn y driniaeth fwyaf effeithiol bosibl os yw’n datblygu. Gallai hyd yn oed olygu y gallem ddweud wrth rhai pobl bod eu canser yn annhebygol o ddatblygu."

Gellir darllen y papur yma: https://www.nature.com/articles/s41375-019-0389-9

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.