Ewch i’r prif gynnwys

Llysgenhadon dros yr iaith

11 Chwefror 2019

Mae pump myfyriwr cyfredol sydd yn astudio yn Ysgol y Gymraeg wedi eu penodi yn Llysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Pwrpas rôl y llysgenhadon yw hyrwyddo’r Gymraeg ym myd addysg uwch ac i annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ystyried dewis astudio trwy’r Gymraeg yn y brifysgol.

Eleni, mae yna 25 llysgennad wedi eu dewis o saith Prifysgol ar draws Cymru, gyda phump o’r chwech llysgennad sydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio yn Ysgol y Gymraeg.

Bydd y pump yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, gan gynnwys ymweliadau ag ysgolion, ffeiriau UCAS a digwyddiadau cenedlaethol megis Eisteddfodau, fel rhan o’u gwaith.

Mae’r myfyrwyr yn gytûn ei bod hi’n holl bwysig hyrwyddo’r cyfleoedd amrywiol sydd ar gael i astudio drwy’r Gymraeg ac ysgogi darpar fyfyrwyr i fanteisio ar y cyfleoedd hyn er mwyn cyfoethogi eu profiadau addysgol a pharatoi ar gyfer y byd gwaith yng Nghymru.

Meddai Dafydd Orrit: “Mae bod yn llysgennad yn bwysig er mwyn lledaenu’r neges fod y Gymraeg yn iaith fyw ym myd addysg uwch yma yn y brifddinas a bod modd dewis astudio yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy’r Gymraeg. Yn bersonol, mae astudio gradd yn y Gymraeg a Newyddiaduraeth yn berffaith i mi oherwydd mae’n caniatáu imi weithio’n ddwyieithog a datblygu fy sgiliau iaith yn barod ar gyfer y byd gwaith”.

I Jacob Morris, roedd astudio trwy’r Gymraeg yn hanfodol iddo ef ac mae’n edrych ymlaen at i weithio gyda’r Coleg Cymraeg i roi gwybod i  eraill am y cyfleoedd sydd ar gael: “Fel Cymro Cymraeg balch derbyniais fy addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ers yr ysgol feithrin. Felly wrth ddod at Addysg Uwch roedd hi’n bwysig fy mod yn medru parhau i gyflwyno fy ngwaith drwy gyfrwng fy mamiaith. Yn ogystal, gobeithiaf ddilyn gyrfa yn y maes newyddiadurol neu wleidyddol yn y dyfodol. Mae pwyslais cynyddol ar y gallu i gyfathrebu’n safonol ac yn raenus drwy’r Gymraeg, felly mae cael cyfle i ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg yn fodd defnyddiol imi ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen.”

I glywed rhagor am waith y criw brwd hwn wrth iddynt ddechrau ar eu gwaith fel Llysgenhadon, dilynwch yr hanes ar-lein.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.