Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Astudiaethau Islam y Brifysgol yn 10 oed

1 Hydref 2015

Centre for Islam

Cyfarfod rhyng-ffydd hanesyddol yn garreg filltir

Bydd y Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU, canolfan ymchwil flaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed yr wythnos hon, fel rhan o gyfarfod rhyng-ffydd hanesyddol ym mhrifddinas Cymru.

Bydd pedwar Archesgob Anglicanaidd Cymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon yn dod ynghyd ag aelodau o gymuned Fwslimaidd Cymru ar 1 Hydref yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar gyfer Working for the Common Good: A Christian & Islamic Perspective.

Archesgob Caergaint, y Parchedicaf a Gwir Anrhydeddus Justin Welby, fydd y prif siaradwr yn y digwyddiad, a drefnwyd gan Gyngor Mwslimiaid Cymru. Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, fydd y cadeirydd.

Cynhelir y cyfarfod wrth i'r Ganolfan flaenllaw ddathlu ei phen-blwydd yn 10 oed, a pharhau â'i nod o hyrwyddo dealltwriaeth ysgolheigaidd a chyhoeddus am Islam a bywydau cymunedau Mwslimaidd yn y DU.

Agorwyd y Ganolfan yn swyddogol gan Yusuf Islam, neu Cat Stevens, yn 2005, ac mae'n hyrwyddo mentrau addysgol o ansawdd uchel sy'n cael effaith leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Ers ei lansio, mae'r Ganolfan wedi dod â £2.5m i economi Cymru, i ymgymryd â gwaith ymchwil ac i alluogi astudiaeth ôl-raddedig ac ôl-ddoethurol.  Gyda'i gilydd, mae ei hymchwilwyr academaidd wedi cyhoeddi 20 o erthyglau mewn cyfnodolion academaidd a thri llyfr, ac wedi golygu penodau mewn 11 llyfr. 

Yn 2014, llwyddodd y Ganolfan i gyflwyno Cwrs Ar-lein Agored ac Enfawr (MOOC) cyntaf Prifysgol Caerdydd, gan alluogi dros 11,000 o bobl ledled y byd i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o gymunedau Islam a Mwslimaidd ym Mhrydain.

Ers 2009, mae ei Chyfres Flynyddol o Ddarlithoedd Cyhoeddus wedi rhannu ei gwaith ymchwil ddiweddaraf â'i chymuned leol yng Nghaerdydd, gan ffrydio ar-lein yn ddiweddar i filoedd o bobl ym mhedwar ban y byd drwy gyfres MOOC.

Ers 2008, mae'r Ganolfan wedi cael ei chefnogi gan Raglen Ysgoloriaeth Jameel, sydd wedi cefnogi pump o fyfyrwyr PhD amser llawn, 21 o fyfyrwyr Meistr amser llawn ac un swydd ôl-ddoethurol.  Ar hyn o bryd, mae'r rhaglen yn ariannu naw myfyriwr Meistr arall, pedwar o fyfyrwyr PhD a dau aelod staff ôl-ddoethurol ychwanegol.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Sophie Gilliat-Ray: "Mae llwyddiant y Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU yn adlewyrchu'r pwyslais rydym yn ei roi ar gydweithio â chymunedau Mwslimaidd, a gwaith ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth i ddealltwriaeth y cyhoedd o Islam a Mwslimiaid ym Mhrydain.  Bellach, mae gan Ganolfan Islam–y DU enw da yn rhyngwladol fel y sefydliad academaidd blaenllaw ar gyfer ymchwil ac astudiaeth Islam yn y DU. 

"Wrth ddathlu 10 mlynedd, cawn ddathlu llwyddiant y Ganolfan, yn ogystal â chefnogaeth Prifysgol Caerdydd, y gymuned academaidd ehangach, ac yn fwyaf oll, y gymuned Fwslimaidd yma yng Nghaerdydd."

Bydd 450 o bobl o amrywiol grefyddau a grwpiau cymunedol yng Nghymru, a chynrychiolwyr cenedlaethol a rhanbarthol, gan gynnwys ASau, ACau a chynghorwyr, yn dod i'r digwyddiad.