Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr yn darganfod y dystiolaeth hynaf o symudedd ar y Ddaear

11 Chwefror 2019

Fossils

Mae ffosiliau hynafol yr organebau cyntaf erioed i ddangos arwyddion o symudedd wedi'u canfod gan dîm rhyngwladol o wyddonwyr.

Cafodd y ffosiliau eu canfod mewn creigiau yn Gabon ac maent oddeutu 2.1 biliwn o flynyddoedd oed. Maent yn awgrymu bodolaeth clwstwr o gelloedd sengl ddaeth ynghyd i ffurfio organeb amlgellog, tebyg i wlithen, oedd yn symud drwy'r mwd i chwilio am amgylchedd mwy dymunol.

Yn ôl y tîm, oedd yn cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd, mae'r canfyddiad newydd yn golygu bod y dystiolaeth gyntaf erioed o symudedd ar y Ddaear dros 1.5 biliwn o flynyddoedd yn gynharach na'r hyn a feddyliwyd yn gyntaf, ac yn codi cwestiynau newydd am hanes bywyd.

Roedd canfyddiadau blaenorol wedi gosod yr olion cynharaf o symudedd mewn organebau cymhleth mewn creigiau dipyn ieuengach, oddeutu 570 miliwn o flynyddoedd yn ôl, mewn lleoliadau amrywiol.

Mewn astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd heddiw yn Proceedings of the National Academy of Sciences, mae'r tîm yn sôn am ddod o hyd i olion symudedd tebyg ar gyfer organebau cymhleth oedd yn ffynnu 2.1 biliwn o flynyddoedd yn ôl ym môr mewnol Francevillian.

Datgelodd dadansoddiad 3D manwl a ddefnyddiodd dechnegau delweddu pelydr X di-niweidiol, ochr yn ochr â phrosesau dyddio geometregol a chemegol, bod y ffosiliau newydd yn perthyn i organeb oedd, yn ôl pob tebyg, yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser mewn dŵr ocsigenedig, ac felly'n dibynnu ar ocsigen.

Mae'r ffosiliau wedi'u cadw fel strwythurau tiwbaidd sy’n rhedeg trwy'r graig mewn haenau tenau, gyda diamedr cyson o ychydig filimedrau.

Ar bwys y strwythurau tiwbaidd hyn roedd bioffilmiau microbaidd ffosiledig oedd, yn nhyb yr ymchwilwyr, yn dir pori ar gyfer yr organebau amlgellog.

Yn ôl cyd-awdur yr astudiaeth, Dr Ernest Chi Fru, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'n ddichonadwy bod yr organebau y tu cefn i'r ffenomen hon yn symud i chwilio am faetholion ac ocsigen a gynhyrchwyd gan fatiau bacteria ar ryngwyneb gwely'r môr a’r dŵr.

"Mae'r canlyniadau yn codi nifer o gwestiynau hynod o ddiddorol am hanes bywyd ar y Ddaear, a sut a phryd y dechreuodd organebau symud. Ai arloesedd biolegol cyntefig oedd hwn, rhagarweiniad i ffurfiau mwy perffeithiedig o symudedd y gwelwn o'n cwmpas heddiw, neu a oedd hwn, yn syml, yn arbrawf a ddaeth i ben yn sydyn?"

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.