Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant entrepreneur Caerdydd â rhithrealiti

4 Ionawr 2019

George Bellwood

Mae myfyriwr 23 oed o Brifysgol Caerdydd wedi lansio ei gwmni rhithrealiti ei hun ar gyfer y sector eiddo a manwerthu.

Cafodd George Bellwood, sy’n fyfyriwr marchnata israddedig, ei ysbrydoli i sefydlu Virtus Tech ar ôl i ddarlith gan Ysgol Busnes Caerdydd ei ysgogi i feddwl am atebion ar gyfer y diwydiant.

Mae’r cwmni busnes-i-fusnes yn defnyddio realiti rhithwir ac estynedig i alluogi cwsmeriaid a phrynwyr tŷ fynd o gwmpas tai ar werth, drwy gymysgu profiadau real a digidol â’i gilydd. Ei nod yw helpu manwerthwyr annibynnol a masnachfreiniol i gystadlu â siopau manwerthu ac ar-lein.

“Ar ôl gweithio yn y diwydiant manwerthu am dros bum mlynedd, gallwn weld yr heriau y mae’r diwydiant manwerthu yn eu hwynebu,’ meddai George.

“Mae Virtus Tech yn rhoi’r awenau’n ôl i’r cwmni ac yn eu gadael i wella profiad y cwsmer, drwy roi’r cyfle iddynt gerdded o gwmpas llawr y siop a phori drwy eitemau sydd ar werth yn rhithwir.”

Ers ffurfio'r cwmni, mae George eisoes wedi ehangu i sectorau eiddo a lletygarwch, drwy sylwi ar gyfleoedd i gynyddu’r twf drwy ehangu ei farchnad bosibl.

"Yn y diwydiant eiddo, mae Virtus Tech yn eich gadael i fynd o gwmpas tai o ddiddordeb cyn ymweld â nhw. Bydd hyn yn arbed amser i’r asiantaeth dai yn ogystal â’r prynwyr. Yn y sector lletygarwch, defnyddir rhithrealiti i hysbysebu gwestai, llety myfyrwyr a chanolfannau digwyddiadau neu brofiadau ar gyfer cwsmeriaid ein cleient. Hyd yma, mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol dros ben,” meddai George.

Dim ond chwe mis ar ôl iddo ddechrau datblygu Virtus Tech, ymhlith cleientiaid George mae sefydliad sy’n lletya myfyrwyr rhyngwladol gwerth miliynau o bunnoedd ac asiant eiddo cenedlaethol mawr.

Fe fagodd George ei syniad am y busnes gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, y gwasanaeth ar gyfer entrepreneuriaeth ifanc yng Nghymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Dysgais am Syniadau Mawr Cymru gan Hyrwyddwr Menter Prifysgol Caerdydd, Claire Parry-Witchell. Fe’m cyfeiriodd tuag at gynghorydd busnes, Chris Howlett. Hyd yn hyn, mae Syniadau Mawr Cymru wedi bod yn hynod ddefnyddiol, ac mae Chris wedi rhoi cyngor defnyddiol iawn i mi.

George Bellwood

Ychwanegodd Claire Parry-Witchell, “Fel mentor busnes yng ngwasanaeth Menter a Dechrau Busnes Prifysgol Caerdydd, mae gen i’r fraint o weithio gydag entrepreneuriaid myfyrwyr a’u cefnogi er mwyn rhoi bod i’w syniadau.

“Heb os, bydd Virtus Tech yn ysgytio’r farchnad manwerthu ac eiddo drwy wella profiad y cwsmeriaid. Mae brwdfrydedd, gwydnwch a chymhelliant yn elfennau allweddol i unrhyw entrepreneur, ac mae gan George beth wmbredd ohonynt.”

Mae gwasanaeth Menter a Dechrau Busnes Prifysgol Caerdydd yn cynnig cefnogaeth gychwynnol i fyfyrwyr Caerdydd sydd am ddechrau eu busnesau eu hunain.  Gan ein bod yn cael ein hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, rydym yn gallu gweithio gydag entrepreneuriaid brwdfrydig a thalentog ar eu syniadau busnes.”

Ychwanegodd George: "Mae'r Brifysgol wedi'n helpu’n aruthrol. Creais Virtus Tech ar ôl darlith Marchnata a Strategaeth yn fy ail flwyddyn gan ddarlithydd wych, Dr Eleri Rosier, a ysbrydolodd y syniad busnes. Ar ôl cyfarfod ag Eleri i gael cyngor arbenigol, penderfynais fynd ar drywydd y busnes ac erbyn hyn, dim ond pum mis yn ddiweddarach, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o gwmnïau."

Ar hyn o bryd, mae George yn gweithio ar syniad newydd er mwyn parhau i amrywio’r busnes, drwy ddatblygu meddalwedd sy’n defnyddio rhithrealiti mewn siopau i wella profiad y cwsmeriaid.

“Bydd cael defnyddio’r feddalwedd drwy ap yn helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i gynhyrchion wrth siopa. Ein nod yw helpu sefydliadau annibynnol a masnachfreiniol i fynd i’r afael â dirywiad y stryd fawr sydd i’w weld yn y wlad sydd ohoni.”

Ychwanegodd Chris Howlett o Syniadau Mawr Cymru: "Mae George yn enghraifft berffaith o berson ifanc sy’n gweithio’n galed ac sydd mewn sefyllfa wych i wneud i’w syniad busnes ffynnu. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda fe hyd yn hyn ac rydym yn ffyddiog y bydd ei ymrwymiad yn talu ar ei ganfed.”

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.