Ewch i’r prif gynnwys

£50,000 ar gyfer partneriaeth â Chanolfan Arloesedd Clwyfau Cymru

14 Rhagfyr 2018

Welsh Wound Innovation Centre

Dyfarnwyd £50,000 ar gyfer partneriaeth rhwng Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru a Phrosiect Cydweithredol Sheffield a Neem Biotech ar gyfer Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Bioffilmiau (SCARAB) gan y Ganolfan Arloesedd Bioffilmiau Genedlaethol (NBIC) i Brofi’r Cysyniad.

Mae’r grant agoriadol wedi cael ei ddyfarnu er mwyn hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu a phrofi ymyriadau gwrth-bioffilm effeithiol, ar sail yr ymchwil arloesol a gynhelir gan Neem Biotech.

Ffurfir bioffilmiau gan lawer o facteria fel dull amddiffynnol ar gyfer cytrefi bacteria mewn amrywiaeth o gyflyrau metabolig. Mewn bodau dynol, mae bioffilmiau’n amddiffyn bacteria rhag y system imiwnedd dynol a gwrthfiotigau. Maent hefyd yn creu ffactorau sy’n hwyluso ymledu i feinweoedd lleol i’r bacteria. Atalyddion sy’n synhwyro cworwm a elwir y cynhyrchion sy'n rhwystro lledaeniad yr haint mewn bioffilmiau.

Bydd y bartneriaeth yn ehangu data ar weithgarwch biolegol cyfansoddion posibl Neem ar gyfer rheoli heintiau bacteriol mewn clwyfau. Nod yr ymchwil yw hyrwyddo dylunio cyffuriau rhesymegol a chyflymu trosglwyddo’r ymchwil sylfaenol i’r clinig.

Drwy weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, bydd Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru’n adeiladu ar waith Uned Ymchwil Gwella Clwyfau (WHRU) a dyma’r cyfleuster mwyaf blaenllaw ar gyfer arloesedd clinigol yng Nghymru.

Mae heintiau clwyfau yn gyflwr costus sy’n cynyddu ac mae eu trin yn effeithiol yn parhau i fod yn dalcen caled. Mae gan y bartneriaeth hon botensial mawr ar gyfer deall tarddiad heintiau o'r fath gan osod y sylfaen ar gyfer trin clwyfau hyn sydd yn gallu datblygu i fod yn broblem glinigol ddifrifol os nad ydynt yn cael eu trin.

Yr Athro Keith Harding Clinical Professor

Graham Dixon, Prif Swyddog Gweithredol Neem Biotech: “Bydd y grant hwn yn ein galluogi i ddod o hyd i ragor o wybodaeth hanfodol am gyfansoddion clinigol posibl Neem sy’n targedu heintiau poenus a lleol mewn clwyfau sy’n atal y clwyf rhag gwella.  Bydd hefyd yn ehangu ein gwybodaeth am gyfres unigryw Neem o Atalyddion Synhwyro Cworwm a allai fod yn flaenllaw wrth gynhyrchu cenhedlaeth newydd o wrthfiotigau anhraddodiadol.

“Gallai’r cynllun Prawf o Gysyniad cyntaf hwn, oedd yn bosibl drwy garedigrwydd y Ganolfan Arloesedd Bioffilmiau Genedlaethol  alluogi cleifion i gael gafael ar ddulliau newydd o reoli heintiau bacterol yn gyflymach drwy wyddoniaeth arloesol.”

Ychwanegodd Dr Esther Karunakaran o Brosiect Cydweithredol Sheffield ym maes Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (SCARAB): “Mae gan gyfansoddion newydd sy’n gallu atal synhwyro cworwm neu leihau faint o fioffilm sy’n ffurfio a heintiau rhag ymledu, rôl hanfodol wrth i ni geisio paratoi strategaethau ymarferol i oresgyn ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae’r modd y defnyddir gwrthfiotigau ar hyn o bryd yn gallu creu ymwrthedd gwrthficrobaidd, a gall atalyddion synhwyro cworwm fod yn strategaeth ymarferol i’w chyfuno â gwrthfiotigau ar gyfer rhai heintiau.

“Gyda ein cydweithwyr yn Neem Biotech a Chanolfan Arloesedd Clwyfau Cymru, credwn fod gennym yr elfennau’n barod i allu llwyddo gyda’r gwaith pwysig hwn.”

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.