Ewch i’r prif gynnwys

Cipolwg ar ran o’r amgylchedd rhewlifol heb ei gweld yn flaenorol

03 Ionawr 2019

Greenland research team walking to portal

Mae Llen Iâ’r Ynys Las yn rhyddhau tunelli o fethan, yn ôl astudiaeth newydd sy'n dangos bod gweithgarwch biolegol tanrewlifol yn effeithio ar yr atmosffer lawer mwy nag y credid o’r blaen.

Gwersyllodd tîm rhyngwladol, gan gynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, am dri mis ar bwys Llen Iâ’r Ynys Las. Roeddynt yn samplu’r dŵr tawdd oedd yn llifo o fewn dalgylch mawr (> 600 km2) y Llen Iâ yn ystod misoedd yr haf.

Drwy ddefnyddio synwyryddion newydd i fesuro methan mewn dŵr tawdd ar y pryd, arsylwon nhw fod methan yn cael ei gludo’n barhaus o dan yr iâ.

Cyfrifon nhw i chwe thunnell o fethan o leiaf gael eu cludo i’w safle mesur o ran hon y Llen Iâ’n unig. Mwy neu lai, mae hyn yn cyfateb i’r un maint o fethan y byddai cant o wartheg yn ei ryddhau.

Meddai’r Athro Jemma Wadham, Cyfarwyddwr Sefydliad Cabot dros yr Amgylchedd ym Mryste a arweiniodd yr ymchwiliad: “Un o’r prif ganfyddiadau yw bod llawer o’r methan sy’n cael ei greu o dan yr iâ yn debygol o ddianc rhag Llen Iâ’r Ynys Las mewn nentydd chwim cyn iddo gael ei ocsideiddio’n CO2. Dyma dynged arferol methan, ac mae hyn yn lleihau ei nerth tŷ gwydr.”

Greenland research team walking to portal

Mae technoleg newydd y synwyryddion yn rhoi cipolwg ar ran o’r amgylchedd rhewlifol heb ei gweld o’r blaen. Mae mesur dŵr tawdd yn barhaus yn ein galluogi i wella’n dealltwriaeth o sut mae’r systemau diddorol hyn yn gweithio a sut maent yn effeithio ar weddill y blaned.

Dr Liz Bagshaw, Lecturer

Nwy methan (CH4) yw’r trydydd nwy tŷ gwydr pwysicaf yn yr atmosffer, ar ôl anwedd dŵr a charbon deuocsid (CO2). Fodd bynnag, mewn crynodiadau is, mae methan tua 20-28 waith yn fwy nerthol na CO2. Felly, gall meintiau llai gael effaith anghymesur ar dymereddau’r atmosffer. Cynhyrchir y rhan fwyaf o fethan y ddaear gan ficro-organebau sy'n troi mater organig yn CH4 heb ocsigen. Gan amlaf, mae hyn yn digwydd mewn gwlyptiroedd ac ar dir amaeth, er enghraifft, mewn stumogau buchod a chaeau reis.  Mae'r gweddill yn dod o danwyddau ffosil fel nwy naturiol.

Er i rywfaint o fethan gael ei ganfod o’r blaen mewn creiddiau iâ o’r Ynys Las ac mewn Llyn Tanrewlifol Antarctig, dyma’r tro cyntaf i’r ffaith gael ei hadrodd bod dŵr tawdd y gwanwyn a’r haf mewn dalgylchoedd llenni iâ mawr yn allgludo methan yn barhaus o wely’r llen iâ i’r atmosffer.

Dywedodd yr awdur arweiniol, Guillaume Lamarche-Gagnon, o Ysgol Gwyddorau Daearyddol Bryste: “Yr hyn sy’n drawiadol hefyd yw ein bod wedi dod o hyd i dystiolaeth ddiamwys o system ficrobaidd danrewlifol helaeth. Er ein bod yn gwybod bod microbau sy’n cynhyrchu methan yn debygol o fod yn bwysig mewn amgylcheddau tanrewlifol, roedd gwyddonwyr yn anghytuno o ran pa mor bwysig neu helaeth oeddynt. Rydym yn gweld yn glir bellach fod micro-organebau gweithredol, sy'n byw o dan gilometrau o iâ, yn goroesi ac yn debygol o effeithio ar rannau eraill o system y ddaear. Yn ei hanfod, mae’r methan tanrewlifol hwn yn fiofarciwr ar gyfer bywyd yn y cynefinoedd anghysbell hyn.”

Mae mwyafrif yr astudiaethau ynghylch ffynonellau methan yr Arctig yn canolbwyntio ar rew parhaol, achos mae’r priddoedd rhewllyd hyn yn tueddu i gynnwys cronfeydd mawr o garbon organig y gellid eu troi’n fethan tra eu bod yn toddi wrth i’r hinsawdd gynhesu. Mae’r astudiaeth ddiweddaraf hon yn dangos bod cronfeydd mawr o garbon, dŵr hylifol, micro-organebau a phrinder o ocsigen - yr amodau delfrydol ar gyfer creu nwy methan - yn ffynonellau methan atmosfferig hefyd.

Gan mai Antartica sy’n cynnwys y gronfa fwyaf o iâ ar y blaned, mae ymchwilwyr yn awgrymu ar sail eu canfyddiadau y dylid canolbwyntio fwy ar y de. Ychwanegodd Mr Lamarche-Gagnon: “Mae rhai rhagdybiaethau’n awgrymu bod sawl trefn maint mwy o fethan wedi’u dal o dan Len Iâ’r Antartig nag o dan iâ’r Arctig. Fel y gwnaethom yn yr Ynys Las, mae'n bryd rhoi rhifau mwy cadarn ar y ddamcaniaeth."

Cafodd yr ymchwil ‘Greenland melt drives continuous export of methane from the ice-sheet bed’ ei chyhoeddi yn Nature.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwe'r Ysgol.