Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth ar gyfer gofal cleifion yn nodi BioCymru 2017

21 Chwefror 2017

Cardiff University presentation at BioWales

Mae Prifysgol Caerdydd yn mynd i gydweithio ag un o Sefydliadau Ymchwil Meddygol annibynnol blaenllaw'r DU i droi ymchwil yn ofal cleifion.

Bydd gwyddonwyr y Brifysgol yn datblygu triniaethau, technolegau a thechnegau newydd gyda Sefydliad Ymchwil Meddygol Northwick Park (NPIMR) sy’n seiliedig ar elusen.

Byddant yn datblygu ymchwil meddygol cyn-glinigol ar draws meysydd gan gynnwys technolegau dyfeisiau meddygol, meddyginiaeth adfywiol a pheirianneg meinweoedd.

Cyhoeddir y bartneriaeth cyn BioCymru 2017 ar 7-8 Mawrth. Daw hyn yn sgîl cyhoeddi partneriaeth arloesedd clinigol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn nigwyddiad BioCymru 2016.

Bydd y prosiectau cychwynnol gyda NPIMR, a leolir yn Harrow, yn canolbwyntio ar waith yn Athrofa Cymru ar gyfer Therapïau Llai Ymyrrol a Chanolfan Arloesedd Clwyfau Cymru Prifysgol Caerdydd.

Meddai’r Athro Keith Harding, Dean Arloesi Clinigol y Brifysgol: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â NPIMR. Cydnabyddir y sefydliad yn gyffredinol am ei waith i wella canlyniadau a sicrhau'r manteision mwyaf i gleifion a'r GIG yn ehangach...”

"Mae ein partneriaeth newydd wedi'i llunio i symud syniadau yn eu blaenau’n gyflym, gan eu troi o fod yn ymchwil i fod yn driniaethau ac yn dechnolegau a fydd yn dod â manteision hirdymor ar gyfer cleifion."

Yr Athro Keith Harding Clinical Professor

Mae WIMAT Caerdydd eisoes wedi cydweithio'n agos â NPIMR, sydd â’i ganolfan yn Harrow, Middlesex. Gyda'i gilydd datblygon nhw UltraVision™ - y ddyfais clirio mwg laparosgopig sydd wedi ennill nifer o wobrau, a ddyfeisiwyd yng Nghaerdydd a’i masnacheiddio gan Alesi Surgical Limited.

"Rydym yn falch iawn o gael cydweithio â Chaerdydd i ddatblygu rhagor o lwyddiannau fel UltraVision™."

Professor Paul Sibbons Director of NPIMR

Meddai’r Athro Paul Sibbons, Cyfarwyddwr NPIMR: "Rydym yn falch iawn o gael cydweithio â Chaerdydd i ddatblygu rhagor o lwyddiannau fel UltraVision™. Rydym eisoes wedi nodi dau brosiect ar y cyd newydd ym maes meddygaeth adfywio a pheirianneg meinweoedd ac rydym yn disgwyl dechrau gweithio arnyn nhw cyn hir."

Cadarnhaodd y ddau sefydliad eu partneriaeth drwy lofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth.

Datblygwyd y cytundeb gan aelodau o Brifysgol Caerdydd a Thîm Amlddisgyblaethol Arloesi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae hanes o gydweithio er mwyn arloesi gan y Bwrdd a Phrifysgol Caerdydd. Nod y Bartneriaeth Arloesedd Clinigol, a ffurfiwyd yn 2016, yw sicrhau gwell gofal iechyd cleifion a chreu cyfoeth yng Nghymru drwy gyflymu’r broses o droi arloesi clinigol yn welliannau ym maes iechyd a gwasanaethau clinigol.

Rhannu’r stori hon

Creu newid sylweddol i gyflymu'r ffordd gall arloesedd clinigol wella gwasanaethau iechyd.