Ewch i’r prif gynnwys

Bri yng ngwlad y Basg i uchelgais o Gymru

3 Rhagfyr 2018

Flag on old building
In 2012 the Basque Country placed fifth in the Gender Equality Index ranking of the countries of the European Union.

Caiff y ddadl a glywir yn aml fod gan Gymru lawer i'w ddysgu gan wlad y Basg ei archwilio'n fanwl wrth i Ddeon a Dirprwy Ddeon Ysgol Busnes Caerdydd ymuno â Thîm Cyfnewid Ymarfer Da Swyddfa Archwilio Cymru i groesawu cydweithwyr o ‘Euskal Herria’ ar ymweliad i rannu gwybodaeth.

Yn y gynhadledd sy'n ganolbwynt i'r ymweliad, ddydd Mawrth 4 Rhagfyr 2018, bydd gweithdai'n arddangos agweddau Basgeg at leihau anghydraddoldeb drwy ddatblygu cydweithredol ym meysydd gweithgynhyrchu, cynhwysiad anabledd, addysg a menter.

Bydd yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd, yn cymryd rhan mewn trafodaeth panel fydd yn trafod gwersi'r diwrnod ac yn cynllunio'r camau nesaf.

Yn 2012 adroddodd EUSTAT fod gwlad y Basg yn bumed ar y rhestr Mynegai Cydraddoldeb Rhywedd o blith gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.

Daeth y gymuned ymreolaethol yng ngogledd Sbaen ar ôl Sweden, y Ffindir, Denmarc a'r Iseldiroedd, ond o flaen y 24 aelod arall o'r Undeb Ewropeaidd ac ymhell o flaen y cyfartaledd Ewropeaidd.

Mae'r ymweliad yn un o nifer o ddigwyddiadau a phrosiectau â'r nod o gydweddu strategaeth Gwerth Cyhoeddus yr Ysgol gyda gwaith Swyddfa Archwilio CymruSwyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r DyfodolBusnes yn y Gymuned, Cymru ac eraill.

Mae'r tirlun sy'n datblygu, o werth a grëir ar y cyd, yn ceisio amlygu sbardunau posibl ar gyfer cynhwysiad economaidd a chymdeithasol a gwella'r modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu cyflenwi, gan annog tirlun mwy amrywiol a phwrpasol o actorion economaidd yng Nghymru.

Lleihau anghydraddoldebau economaidd

Bydd yr ymwelwyr yn profi ansawdd ac effaith menter gymdeithasol Gymreig gydag ymweliad â Big Moose Coffee yng Nghaerdydd - busnes lle caiff yr holl elw ei ail-fuddsoddi i helpu'r digartref.

Dywedodd yr Athro Rachel Ashworth: “Rydym ni'n edrych yn eiddigeddus ar lwyddiant gwlad y Basg wrth iddyn nhw leihau anghydraddoldebau economaidd a chredwn y gallwn ni ddynwared hynny yma yng Nghymru, ond mewn gwirionedd, dyw hi ddim yn hawdd...”

“Bydd y digwyddiad hwn yn ein helpu i ddeall y gwersi y gallwn ni eu haddasu'n ymarferol o gyd-destun gwlad y Basg a sut y gallwn ni ddeall yn well rôl sefydliadau cydweithredol yn creu llewyrch yma yng Nghymru, gan geisio caniatáu i ni ymfalchïo yn ein llwyddiannau ein hunain hefyd efallai.”

Yr Athro Rachel Ashworth Deon Ysgol Busnes Caerdydd

“Mae'r nod cyffredin o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, gwerth partneriaethau a'r cyfnewid gwybodaeth dilynol gyda diben ymarferol yn crynhoi'r hyn rydym ni'n son amdano wrth drafod gwerth cyhoeddus.”

Cynhelir y Gynhadledd  ‘Buddion Cyffredin: Creu Cydweithrediad Rhwng Cymru a Gwlad y Basg' ddydd Mawrth 4 Rhagfyr 2018 o 10:30 - 15:30 ym Maes Criced Morgannwg, Gerddi Soffia, Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn ymgorffori ein strategaeth gwerth cyhoeddus ar draws ein hymchwil, ein dysgu a'n llywodraethu.