Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr yn cydnabod cymorth y Brifysgol i fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio

29 Tachwedd 2018

Students standing in row

Mae Prifysgol Caerdydd wedi'i henwebu am wobr drwy'r DU am y cymorth mae'n ei gynnig i fyfyrwyr sy'n astudio heb gymorth teuluol.

Defnyddir y term myfyriwr sydd wedi ymddieithrio i gyfeirio at fyfyrwyr sy'n astudio heb gymorth a chymeradwyaeth rhwydwaith teuluol.

Yn aml does gan bobl ifanc yn y sefyllfa hon ddim cyswllt â'u teulu ac maen nhw wedi'u tynnu eu hunain o sefyllfa gamweithredol.

Mae gwaith y Brifysgol fel rhan o brosiect i godi ymwybyddiaeth a gwella profiad myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio mewn Addysg Uwch wedi’i osod ar restr fer gan elusen Stand Alone.

Mae'r elusen wedi annog prifysgolion i lofnodi ei Hadduned AU i ddatblygu gwell cymorth i fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio.

Prifysgol Caerdydd oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i lofnodi'r adduned.

Mae Gwobrau Rhagoriaeth ac Arloesedd Stand Alone yn cydnabod ymrwymiad rhagorol a dulliau arloesol mewn Sefydliadau Addysg Uwch i gefnogi myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio.

Dywedodd Einir England, sy'n cefnogi myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio fel rhan o adran Cefnogi a Lles Myfyrwyr y Brifysgol: "Mae'n wych i gael ein cydnabod am ein gwaith yn y maes hwn. Fel Prifysgol rydym ni'n ymrwymo i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio i lwyddo.

"Ar hyn o bryd rydym ni'n cefnogi 30 o fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio eleni ond rwy'n siwr fod llawer mwy o fyfyrwyr a allai elwa o'r cymorth ond nad ydyn nhw wedi cysylltu â ni hyd yma.

Gallai myfyrwyr ymddieithrio o'u teulu cyn dechrau eu cwrs neu gallai'r ymddieithrio ddigwydd yn ystod eu cwrs. Mae myfyrwyr yn ymddieithrio am nifer o resymau gwahanol, ond yn aml mae cam-drin emosiynol ochr yn ochr â gwrthdaro gwerthoedd a chredoau a disgwyliadau anghydnaws am rolau teuluol yn chwarae rhan.

Einir England

Mae Prifysgol Caerdydd wedi'i henwebu yn y categori Graddio a Thu Hwnt, ac mae'r cymorth yn cynnwys bwrsariaeth i fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio, cyswllt â chymorth gyrfaoedd a chyflogadwyedd, a phecyn graddio sy'n cynnwys llogi'r cap a'r wisg a thalu am y ffotograff.

Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth i fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio gan gynnwys bwrsariaeth, blaenoriaeth ar gyfer rhaglen cymorth ariannol, mentor dynodedig a llety drwy'r flwyddyn mewn neuadd breswyl os oes angen.

Bydd Stand Alone yn cyhoeddi'r enillwyr yn ystod wythnos Ymgyrch Undod â Myfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio rhwng 26 a 20 Tachwedd 2018.

Astudiaeth Achos myfyriwr

Ni fu Amy (nid ei henw cywir) yn agos at ei thad erioed. Roedd ei pherthynas â'i mam yn anodd iawn, a chafodd hi a'i chwaer eu magu gan eu mam-gu ar ochr eu mam. Roedd ganddi gysylltiad â'i mam, ond dydyn nhw ddim yn agos.

Mae mam-gu Amy yn dioddef o ddementia. Yn ystod ei blwyddyn academaidd gyntaf yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, bu'n rhaid i'w mam-gu fynd i'r ysbyty am gyfnod, ac yna i fyw mewn cartref nyrsio. Ar y pwynt hwn symudodd Amy a'i chwaer i fyw gyda'u mam. Yn anffodus, datblygodd yn sefyllfa eithaf tanllyd gyda'u mam yn ymddwyn yn dreisiol atynt. Yn y pen draw roedd Amy a'i chwaer yn ddigartref a chysyllton nhw ag elusen a'u helpodd i gofrestru'n ddigartref. Cawsant dŷ gan eu cyngor.

Digwyddodd hyn i gyd pan oedd Amy'n ymgymryd â'i chwrs ym Mhrifysgol Caerdydd. Cysylltodd Amy â ni yn y Tîm Cyngor ac Arian am ei bod yn cael trafferth gyda Chyllid Myfyrwyr. Yn wreiddiol, rhoddodd ei mam wybodaeth am ei hincwm er mwyn i Amy gael cyllid, ond gan fod y berthynas wedi chwalu, nid oedd yn briodol iddi ofyn ei mam am fanylion ei hincwm ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

Helpodd Einir England, yr Aelod penodol o staff dros fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio, Amy, gan gysylltu gyda Chyllid Myfyrwyr a ddyfarnodd statws annibynnol iddi, oedd yn golygu ei bod yn derbyn cyllid cyflawn yn ei hawl ei hun. Cafodd Amy’r Fwrsariaeth i Fyfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio ar gyfer ei blwyddyn olaf, a phecyn graddio a oedd yn cynnwys y gost o logi cap a gwisg a phecyn ffotograff.

Graddiodd Amy yn 2017 ac mae wedi bod yn gweithio ym maes tai ers hynny. Ar hyn o bryd mae'n gweithio fel cydlynydd eiddo. Breuddwyd Amy yw dod yn athrawes, ac mae hi newydd gael lle ar gwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion fydd yn dechrau ym mis Medi 2019.

Rhannu’r stori hon

Archwiliwch ein campysau a dysgu mwy am ein cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer ein myfyrwyr.