Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabod a dathlu rhagoriaeth mewn ymarfer

14 Medi 2018

Award winners at the celebratory event
Enillwyr y gwobrau yn y digwyddiad dathlu

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, cynhaliwyd digwyddiad gan Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd, i ddathlu ei phartneriaethau gydag ymarfer clinigol. Roedd y digwyddiad yn gyfle i arddangos y cyfleoedd ardderchog a gynigir i fyfyrwyr ar draws yr holl amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rhoddwyd adborth cadarnhaol gan westeion ac enwebeion am y digwyddiad. Roedd sylwadau gan fynychwyr yn cynnwys:

‘Da iawn, roeddwn yn teimlo y cafodd yr holl enwebeion eu dathlu.’

‘Cymysgedd da o wobrau i fyfyrwyr ac addysgwyr, a siaradwr.’

‘Roedd y dathliad cyfan yn hyfryd, diolch.’

Ymhlith uchafbwyntiau’r diwrnod yn ôl y gwesteion, oedd:

‘Cael y cyfle i gwrdd â phartneriaid ymarfer a chlywed am eu gwaith a sut maen nhw’n cefnogi myfyrwyr fel fy hun.’

‘Gweld pa mor falch roedd y clinigwyr wrth gael eu cydnabod am eu cyfraniadau.’

Cynhaliwyd y digwyddiad ym Mhlas y Parc, Caerdydd ar ddydd Mercher, 12 Medi 2018, a gwnaeth dros 100 o westeion o Gymru fynd iddo. Roedd y digwyddiad yng ngofal yr Athro David Whitaker, Pennaeth a Deon yr Ysgol, a wnaeth roi’r anerchiad agoriadol, a’r Athro Dianne Watkins, Dirprwy-bennaeth, Rhyngwladol ac Ymgysylltu, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r gwobrau.

Roedd y digwyddiad yn anrhydeddu'r rhai hynny sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i addysg ymarfer clinigol, ac roedd yn gyfle i ddathlu llwyddiannau mentoriaid, addysgwyr, timau a myfyrwyr gorau’r ysgol. Ymhellach, i gydnabod yr effaith a wnaed gan enwebeion i fywydau pobl eraill, yn ogystal â'u dylanwad ar ofal cleifion a chleientiaid.

Eleni, Jane Martin, Therapydd Galwedigaethol Hynod Arbenigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, oedd enillydd y Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig. Gwnaeth Jane dderbyn y wobr hon i werthfawrogi’r blynyddoedd lawer mae hi wedi bod yn gweithio fel cydlynydd lleoliadau ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, gan weithio'n agos gydag addysgwyr ymarfer a'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd. Sally Collins, Uwch Ffisiotherapydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Helen Nicolas, Bydwraig Gymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro oedd yn yr ail safle ar gyfer y Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig, a rhoddwyd y wobr iddynt i gydnabod eu hymrwymiad hirsefydlog i’r Ysgol.

Presenting Award
Yr Athro David Whitaker, Pennaeth yr Ysgol a Deon Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn cyflwyno gwobr i Jane Martin, Abertawe Bro Morgannwg University Health Board

Eleni, cyflwynwyd gwobr newydd, Mentor Gorau Cymru, i ddathlu ymrwymiad yr Ysgol i’r iaith Gymraeg. Cafwyd enwebiadau ar gyfer y wobr hon gan fyfyrwyr ar draws proffesiynau a rhaglenni sydd wedi bod ar leoliad gyda mentoriaid sy’n medru’r Gymraeg, a’u haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyfarnwyd y wobr Mentor Gorau Cymru i Catrin Davies, Tîm Ffisiotherapi Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Lowri Pearce, Ward Rhymni, Ysbyty Ystrad Fawr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a oedd yn yr ail safle.

Rhoddwyd araith wefreiddiol i gloi gan Dr Chris Jones, CBE, Cadeirydd y sefydliad Addysg a Gwella Iechyd Cymru newydd.

Dywedodd yr Athro Dianne Watkins, Dirprwy Bennaeth, Rhyngwladol ac Ymgysylltu, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, ‘Mae'r digwyddiad hwn yn dathlu Partneriaeth Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ag ymarfer a’r cyfleoedd a’r gefnogaeth ardderchog a roddir i’n myfyrwyr ar draws yr holl amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol ym mhob cwr o Gymru.'

Estynnwn ein gwerthfawrogiad a’n diolch i’r holl fentoriaid, addysgwyr ac uwch reolwyr sy'n cyfrannu at wella profiad ein myfyrwyr a’u paratoi ar gyfer byd ymarfer proffesiynol.

Afternoon Tea
Gwestai’n mwynhau’r te prynhawn

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad dathlu, cysylltwch â thîm Marchnata’r Gwyddorau Gofal Iechyd drwy anfon ebost at HCAREmarketing@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon