Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr Gyfeillgarwch y Mur Mawr

1 Tachwedd 2018

VC Colin Riordan being awarded the Great Wall Friendship Award

Mae'r Is-ganghellor wedi derbyn un o wobrau mwyaf mawreddog Tsieina er mwyn cydnabod cyfraniad hirsefydlog y Brifysgol tuag at ddatblygu prifddinas Tsieina, Beijing.

Dyfarnwyd Gwobr Gyfeillgarwch y Mur Mawr i'r Athro Riordan i gydnabod llwyddiant partneriaethau ymchwil dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain, yn fwyaf nodedig gyda Phrifysgol Beijing a Capital Medical.

Mae enillwyr blaenorol y dyfarniad yn cynnwys y cyn-seren pêl fasged NBA, Stephon Marbury, cyn-lywydd Siemens China, Ernst Behrens, sylfaenydd I.T. United Cyrill Eltschinger, a Llywydd ABB China, Claudio Facchin.

Yn ôl yr Athro Riordan: "Mae derbyn gwobr mor uchel ei pharch ar ran y Brifysgol yn anrhydedd enfawr.

Mae gan Brifysgol Caerdydd berthynas hir gyda Tsieina sydd wedi hen ennill ei phlwyf. Mae'r dyfarniad hwn yn cydnabod ymdrechion nifer o gydweithwyr ymchwil rhagorol sydd wedi gweithio mor galed i gefnogi a chynnig eu cyngor arbenigol i'n ffrindiau Tsieinëeg dros y deng mlynedd ar hugain ddiwethaf.

Yr Athro Colin Riordan

Gellir olrhain cysylltiadau hanesyddol y Brifysgol gyda Beijing yn ôl i 1999 pan ddaeth yn bartner am y tro cyntaf gyda Phrifysgol Peking i ymchwilio i achosion canser a gweithio ar wella prosesau diagnosio a thrin y clefyd.

Ers hynny, mae'r bartneriaeth hon wedi datblygu, gan gyrraedd penllanw wrth sefydlu Cyd-Ganolfan Ymchwil Biofeddygol Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Capital Medical yn 2013.

Canlyniad y fenter ar y cyd oedd 91 o gyfnewidiadau ysgolheigaidd, dros 60 o gyfnewidiadau myfyrwyr, ac ymchwil ar y cyd i achosion canser, a thriniaethau ar ei gyfer.

Ychwanegodd yr Athro Riordan: "Rwy'n falch o'r cysylltiadau yr ydym wedi'u datblygu gyda Phrifysgol Capital Medical, yn Beijing ac ar draws Tsieina.

"Edrychaf ymlaen at ddatblygu'r partneriaethau hyn, sydd eisoes yn llwyddiannus, dros y blynyddoedd nesaf."

Rhannu’r stori hon

Dechreuodd yr Athro Wendy Larner swydd Llywydd ac Is-Ganghellor ar 1 Medi 2023.