Ewch i’r prif gynnwys

Cyflogwyr yn amheus am unrhyw gynlluniau cyflog rhywedd 'arwynebol'

22 Rhagfyr 2016

British coins stacked on top of one another

Yn fuan bydd yn ofynnol i gwmnïau sydd â 250 neu fwy o gyflogeion ddarparu data cyfartalog ar gyflog a bonysau ar gyfer dynion a menywod.

Fodd bynnag mae cyflogwyr wedi dweud wrth ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerwysg a Phrifysgol Caerfaddon eu bod yn bryderus na fyddent yn cael amser i ddeall na pharatoi at y newid.

Er bod rhai cwmnïau’n dweud eu bod yn gwneud paratoadau gweithredol ar gyfer ymgymryd â dadansoddiad cyflog, dywedodd eraill eu bod yn bryderus nad oedd y cynigion yn galw am naratif ategol i egluro pam fod bylchau cyflog yn bodoli, sut roedd y ffigurau am gael eu casglu ac felly a fyddai cyhoeddi ffigurau cyfanredol yn adlewyrchiad teg a gwir o'r sefyllfa. Hefyd cafwyd anawsterau o ran diffinio'r hyn mae cyflog yn ei gynnwys.

Cynhaliwyd yr astudiaeth fel rhan o gynllun ymchwil cydweithredol a hwyluswyd gan Gynghrair GW4, sy'n dod â phedair o'r prifysgolion mwyaf ymchwil-ddwys ac arloesol yn y DU at ei gilydd; prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg.

Fodd bynnag gall cyflogwyr sector preifat yng Nghymru dynnu ar yr hyn a ddysgwyd o raglen ymchwil Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi (WAVE), sydd wedi cynorthwyo cyflogwyr sector cyhoeddus i ymgymryd â dadansoddiad manylach er mwyn gweld sut mae rhaniadau rhywedd yn y gweithlu o ran mathau o swyddi, oriau gwaith a chontractau cyflogaeth yn arwain at fylchau cyflog rhwng y rhywiau. Dan ddyletswyddau cydraddoldeb penodol Llywodraeth Cymru ar wahaniaethau cyflog, mae'n ofynnol i gyflogwyr sector cyhoeddus hefyd i lunio cynlluniau gweithredu i fynd i'r afael ag achosion bylchau cyflogaeth a chyflog.

"Mae ymchwil GW4 wedi dangos bod cyflogwyr sector preifat yn awyddus i ddeall ac egluro pam fod ganddyn nhw fylchau cyflog ond ar hyn o bryd nid yw hyn yn ofynnol dan y rheoliadau arfaethedig."

Dr Alison Parken Senior Research Fellow, Wales Centre for Public Policy

Dywedodd Dr Alison Parken, Uwch Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Busnes Caerdydd a Chyfarwyddwr WAVE: "Rwyf i'n credu y dylai fod oherwydd mae ein profiad yn y sector cyhoeddus yng Nghymru'n dangos y bydd cyflogwyr yn gweithredu i sicrhau newid unwaith y bydd ganddyn nhw dystiolaeth i ddangos yr hyn sy'n digwydd yn eu sefydliad eu hunain."

Bu arbenigwyr GW4 yn cyfweld â chyflogwyr ac yn rhedeg arolwg ar-lein, a gwblhawyd gan 150 o reolwyr AD ar draws pob diwydiant. Siaradon nhw â rheolwyr AD mewn 20 o sefydliadau o feintiau gwahanol yn y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.

Dywedodd Cyfarwyddwr GW4, Dr Sarah Perkins: "Mae cydweithio'n sail i bopeth rydyn ni'n ei wneud yng Nghynghrair GW4, gan alluogi ein cymunedau ymchwil i fynd i'r afael â heriau iechyd, cymdeithasol ac amgylcheddol critigol..."

"Mae'r canfyddiadau hyn yn taflu goleuni ar un o broblemau anghydraddoldeb pwysicaf ein cenhedlaeth ni a gobeithio y caiff effaith wirioneddol ar siapio polisi'r llywodraeth."

Dr Sarah Perkins Cyfarwyddwr GW4

Y mis hwn cyhoeddodd y llywodraeth eu hymateb i ymgynghoriad diweddar ar reoliadau drafft sy'n debygol o ddod yn gyfraith. Mae angen cymeradwyaeth gan ASau o hyd.

Rhannu’r stori hon

Yn dod â phedair o'r prifysgolion mwyaf ymchwil-ddwys ac arloesol yn y DU at ei gilydd; prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg.