Ewch i’r prif gynnwys

Bioamrywiaeth yn hanfodol ar gyfer dyfodol Cymru

10 Hydref 2018

Sleeping doormouse

Mae arbenigwyr wedi dod i’r casgliad y gallai rhoi mesurau newydd yn eu lle i gynnig hwb i fywyd gwyllt fod yn ffordd effeithiol i Gymru gyflawni ei hamcanion bioamrywiaeth.

Bu’r Athro Angelina Sanderson Bellamy, ecolegydd ym Mhrifysgol Caerdydd, a Heather Galliford o Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru, yn cydweithio ar yr ymchwil, Bioamrywiaeth a’r ymagwedd ar sail ardaloedd yng Nghymru.

Y bwriad oedd archwilio sut y gall Cymru wneud yn siŵr bod rhywogaethau a chynefinoedd sy’n gostwng mewn nifer yn elwa o weithredu’r dull newydd o reoli adnoddau naturiol.

Mae gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru (NRW) gynhyrchu Datganiadau Ardal o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Pwrpas y Datganiadau yw gosod blaenoriaethau sylfaenol yr ardal ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Mae’r datganiad yn cydnabod bod adnoddau naturiol Cymru yn cynnig amrediad eang o fanteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

Mae gan amrywiaeth rhywogaethau rôl bwysig wrth weithredu ecosystemau iach a gwydnwch ecolegol. Mae hefyd yn cefnogi cymunedau trwy ddarparu gwasanaethau megis rheoli llifogydd; amrywiaeth o rywogaethau coed sy’n gallu helpu i dynnu dŵr i ddyfnderoedd amrywiol y pridd a hefyd ei arwain at ardal goediog sydd â gwell ymwrthiant i bla.

Mae cynnal cynefinoedd sy’n ffynnu hefyd yn hybu lles cymdeithasol, gan gynnig cyfleoedd ym meysydd ecodwristiaeth a gweithgareddau hamdden.

Ond mae’r adroddiad yn nodi: “Heb reolaeth gynaliadwy, gallai nifer o’r gweithgareddau hyn fod yn fygythiad i ddiraddiad bioamrywiaeth, sy’n peryglu darpariaeth y gwasanaethau hyn yn y dyfodol.”

Mewn adroddiad gan NRW yn 2016, amlygwyd methiant Cymru i gyrraedd targedau cenedlaethol a rhyngwladol bioamrywiaeth.

Dywedodd Chris O’Brien o RSPB: “Mae’r adroddiad yn ei gwneud hi’n glir bod mynd i’r afael â dirywiad bioamrywiaeth yn hanfodol i gynnal yr ecosystemau iach yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt. Mae datblygiad Datganiadau Ardal yn cynnig cyfle enfawr i ni yng Nghymru i lwyddo”.

Bioamrywiaeth a’r ymagwedd ar sail ardaloedd yng Nghymru: Mae Sut gall fframwaith rheoli adnoddau dynol yn gynaliadwy (SMNR) adfer byd natur? ar gael yma

Rhannu’r stori hon

For more information please visit the Research Institute webpages