Ewch i’r prif gynnwys

Angen gweithredu ar unwaith i gael dyfodol cynaliadwy

4 Medi 2018

Farming

Nod llyfr newydd a olygwyd gan un o academyddion blaenllaw Prifysgol Caerdydd yw ysgogi trafodaeth am un o faterion amgylcheddol mwyaf brys y byd.

Mae'r Athro Terry Marsden, o Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, wedi lansio SAGE Handbook of Nature. Mae’n cynnig trosolwg sy’n edrych ar orffennol a dyfodol y maes sy'n ceisio gosod natur, yr amgylchedd a phrosesau naturiol wrth wraidd gwyddorau cymdeithasol rhyngddisgyblaethol.

Mae oddeutu 100 o awduron wedi cyfrannu at y gwaith – gwyddonwyr sy'n gweithio ar wahanol agweddau ar wyddorau cymdeithasol yr amgylchedd – ac mae'n dod â 14 o glystyrau gwahanol o waith ysgolheigaidd ynghyd, wedi'u coladu mewn "Gwe o Wyddorau Cynaliadwyedd". Gyda lwc, bydd y llawlyfr yn adnodd ymchwil hanfodol i ymchwilwyr ac ymarferwyr.

Mae ymchwil yr Athro Marsden yn cynnwys gwaith sy’n amrywio’n eang am ailstrwythuro sosio-economaidd amaethyddiaeth; damcaniaethau ac ymchwiliadau empirig o ddatblygu trefol; dadansoddiad o gadwyni a rhwydweithiau bwyd amaethyddol; a sylwebaeth feirniadol ym meysydd cymdeithaseg amgylcheddol a chynllunio amaethyddol sy’n dod fwyfwy i’r amlwg.

Mae gan Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy enw da yn rhyngwladol am gynnal ymchwil berthnasol a chadarn a ddefnyddir gan wneuthurwyr polisïau ar draws Cymru, y DU ac ymhellach, i gefnogi arferion llunio polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Ychwanegodd yr Athro Marsden: "Mae'r problemau sydd ar ddod yn sgîl y newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd yn golygu bod yr ymchwil a gynhelir yn y maes hwn yn llawer mwy brys. Dyw hyn ddim yn rhywbeth y gallwn ei anwybyddu, bellach, ac mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r sefyllfa mewn modd ymarferol. Dros yr ugain mlynedd nesaf, bydd yn rhaid i academyddion fynd yn fwy rhagweithiol a mynd y tu hwnt i ffiniau ysgolheigaidd drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyfrannu'n llawn i'r ddadl. Mae llawer yn digwydd yn barod a'm gobaith yw y bydd y llawlyfr yn fodd o hybu'r maes hwn er budd cenedlaethau yn y dyfodol."

Mwy o wybodaeth am The SAGE Handbook of Nature.

Rhannu’r stori hon

For more information please visit the Research Institute webpages