Rhybudd rhew ar gyfer teithiau gofod i un o leuadau'r blaned Iau
8 Hydref 2018
Gallai lleoliad sy'n cael ei glustnodi'n aml fel cynefin posibl ar gyfer bywyd annaearol fod yn lle lletchwith i longau gofod lanio arno, yn ôl ymchwil newydd.
Mae tîm o dan arweiniad gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi darogan y gallai meysydd o rew miniog, hyd at 15 metr o uchder fod ar wasgar dros barthau cyhydeddol lleuad leiaf y blaned Iau, Europa.
Mae teithiau gofod blaenorol eisoes wedi nodi bod Europa yn un o'r cyrchfannau mwyaf tebygol ar gyfer cynnal bywyd yn ein cysawd yr haul, yn bennaf oherwydd y moroedd maith o ddŵr hylif o dan ei hwyneb.
Mewn astudiaeth newydd sydd wedi'i chyhoeddi heddiw yn Nature Geoscience, mae gwyddonwyr yn datgan ei bod yn bosibl y byddai'n rhaid i unrhyw daith ofod posibl â'r nod o lanio ar Europa lywio drwy rwystrau peryglus o'r enw ‘penitentes’ cyn glanio ar wyneb y lleuad.
Llafnau a phigau miniog o eira a rhew yw penitentes, sy'n wynebu haul hanner dydd. Maent yn ffurfio drwy gyfrwng proses o'r enw sychdarthiad, sy'n gofyn am olau llachar a chyson o'r haul, yn ogystal ag aer oer, sych a llonydd.
Mae sychdarthiad yn broses lle mae rhew yn troi'n anwedd dŵr yn uniongyrchol, heb doddi'n hylif yn gyntaf. Pan mae sychdarthiad yn digwydd, mae'r ffurfiau hyn, sy'n debyg i lafnau, yn cael eu gadael ar ôl.
Mae penitentes i'w cael ar y Ddaear a gallant dyfu i fod rhwng 1 a 5 metr o uchder, ond maent wedi'u cyfyngu i amodau trofannol ac isdrofannol, fel y rheiny yn yr Andes.
Fodd bynnag, mae gan Europa yr amodau perffaith sy'n angenrheidiol er mwyn i penitentes ffurfio'n fwy unffurf – mae sydd ar ei hwyneb yn bennaf ac mae ganddi'r amodau thermol sydd eu hangen i rew sychdarthu heb doddi. Yn ogystal, prin iawn yw'r amrywiad yn yr ongl y mae'r haul yn tywynnu arni ar yr wyneb.
Yn eu hymchwil, defnyddiodd yr ymchwilwyr ddata arsyllol i gyfrifo'r cyfraddau sychdarthu mewn mannau amrywiol ar wyneb Europa, gan ddefnyddio'r rheiny i amcangyfrif maint a dosbarthiad y penitentes.
Daethant i'r casgliad y gallai’r penitentes dyfu i tua 15 metr o uchder, gyda bwlch o tua 7.5 metr rhwng pob un. Daethant hefyd i'r casgliad y byddai'r penitentes yn fwy cyffredin o amgylch cyhydedd Europa.
Does yr un llong ofod wedi glanio ar Europa, hyd yn hyn; fodd bynnag, bwriad NASA yw hedfan o amgylch y lleuad nifer o weithiau gyda'r Europa Clipper, fydd yn cael ei lansio yn 2022. Y gred yw y bydd modd ceisio glanio ar Europa yn fuan wedi hynny.
Yn ôl prif awdur yr astudiaeth, Dr Daniel Hobley, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr Prifysgol Caerdydd: "Mae amodau unigryw Europa yn cynnig posibiliadau cyffrous ar gyfer archwilio, yn ogystal â pherygl enbyd.
Mae Jeff Moore, cyd-awdur yr astudiaeth a Daearegydd Planedau yng Nghanolfan Ymchwil Ames NASA yn Mountain View, Califfornia, yn nodi y gallai'r daith ofod sydd ar y gweill gan NASA, Europa Clipper, ac sydd wedi'i chlustnodi i'w lansio ar ddechrau’r degawd nesaf, arsyllu'n uniongyrchol ar penetentes drwy gyfrwng camera eglur iawn (high-resolution),. Bydd modd hefyd mesur priodoleddau eraill y gwrthrychau diddorol hyn gan ddefnyddio teclynnau eraill y llong ofod. Mae Dr Moore yn gyd-ymchwilydd ar yr Europa Clipper.
Bu ymchwilwyr o Ganolfan Ymchwil Ames NASA, a Phrifysgol Virginia hefyd yn gweithio’n rhan o’r astudiaeth.