Ewch i’r prif gynnwys

Nanoddiemwntau – darganfyddiad disglair

11 Mehefin 2018

Nanodiamonds

Gallai ffrwd welw a dirgel o ficrodonnau sy’n deillio o systemau sêr ymhell i ffwrdd yn y Llwybr Llaethog fod wedi’u hachosi gan ddiemwntau pitw, yn ôl ymchwil newydd.

Am ddegawdau, mae gwyddonwyr wedi gallu mesur y ‘llewyrch’ hwn o oleuni microdon – wedi’i enwi’n allyriad microdon afreolaidd (AME) – sy’n dod o nifer o fannau yn awyr y nos, ond hyd yma, nid ydynt wedi gallu nodi’r union ffynhonnell.

Mewn astudiaeth newydd o dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a gyhoeddwyd heddiw yn y cyfnodolyn Nature Astronomy, mae tîm rhyngwladol wedi dangos mai crisialau bach iawn o garbon yw tarddiad y microdonnau yn ôl pob tebyg. Fe’u gelwir hefyd yn nanoddiemwntau ac maent mewn llwch a nwy o amgylch sêr sydd wedi ffurfio o’r newydd.

Y casgliad hwn o lwch a nwy – a elwir yn ddisg protoblanedol – yw’r man lle mae planedau’n dechrau ffurfio ac mae’n cynnwys llu o foleciwlau organig. Mae’r amodau eithriadol o boeth a llawn egni o fewn y disgiau hyn yn ddelfrydol ar gyfer ffurfio nanoddiemwntau.

Yn wir, caiff y nanoddiemwntau o fewn y disgiau protoblanedol – sy’n aml gannoedd o filoedd o weithiau’n llai na gronyn o dywod – eu canfod mewn meteoritau ar y Ddaear.

“Roeddem yn gwybod bod ambell fath o ronyn yn gyfrifol am y goleuni meicrodon, ond bu ei union ffynhonnell yn bôs ers ei ganfod bron i 20 mlynedd yn ôl,” meddau prif awdur yr astudiaeth, Dr Jane Greaves o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd.

Er mwyn dod i’w casgliadau, manylodd y tîm ar dair seren ifanc oedd yn allyrru golau AME gan ddefnyddio telesgopau Green Bank Robert C. Byrd yn West Virginia, a’r Australian Telescope Compact Array.

Drwy astudio’r golau is-goch oedd yn dod o’r disgiau protoblanedol o amgylch y sêr, roedd y tîm wedi gallu cyplu hwnnw â’r llofnod unigryw sy’n cael ei yrru allan gan nanoddiemwntau.

Nododd y tîm bod y signal unigryw’n deillio o nanoddiemwntau hydrogenaidd, lle mae’r strwythur carbon crisialaidd wedi’i amgylchynnu gan foleciwlau ar yr wyneb sy’n esgor ar hydrogen.

Aeth Dr Greaves yn ei blaen i ddweud : “Dyma ateb gwych ac annisgwyl i bôs ymbelydredd microdonnau afreolaidd. “Mae’n fwy diddorol fyth y cafwyd hyd i’r ateb drwy edrych ar ddisgiau protoblanedol, gan daflu golau ar nodweddion cemegol systemau solar cynnar, gan gynnwys ein un ni ein hunain.”

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.