Ewch i’r prif gynnwys

Y Brifysgol yn cynnal arweinwyr gwyddonol y dyfodol

4 Hydref 2018

International fellows

Mae Prifysgol Caerdydd yn hybu ei phartneriaethau strategol gyda sefydliadau blaenllaw ledled y byd drwy gynnal cyfres o gymrodoriaethau nodedig sy'n ceisio creu arweinwyr gwyddonol y dyfodol.

Mae wyth o ymchwilwyr o Awstralia a Brasil wedi cwrdd yn y Brifysgol yr wythnos hon i ddechrau Cymrodoriaeth Ernest Rutherford yn y Brifysgol sy’n cael ei hariannu gan Universities UK International.

Bydd y cymrodoriaethau'n helpu'r ymchwilwyr i sefydlu rhaglen ymchwil annibynnol a chref gyda chymorth academyddion blaenllaw Caerdydd yn eu maes penodol. Byddant hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau hyfforddi i ddatblygu eu gyrfa.

Dros gyfnod o dri mis, bydd Uned Ymchwil Imiwnedd Systemau'r Brifysgol yn cynnal pum cymrodoriaeth o Brifysgol Monash - un o brif brifysgolion Awstralia sydd ymhlith 100 o brifysgolion gorau'r byd.

Bydd tri chymrodoriaeth 12 mis o hyd yn cael eu cynnal gan Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd y Brifysgol ar gyfer ymchwilwyr o Brifysgol Campinas - prifysgol ymchwil gyhoeddus yn nhalaith São Paulo, Brasil sydd ymhlith prifysgolion gorau Brasil ac America Ladin.

Dyrannwyd grant o £150,000 i'r Brifysgol i gefnogi'r cymrodoriaethau, ac roedd yn un o 17 a ddyrannwyd ar draws prifysgolion y DU.

Meddai’r Athro Nora de Leeuw, Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop ym Mhrifysgol Caerdydd: "Pleser o’r mwyaf yw gallu croesawu'r cymrodyr i Gaerdydd a dysgu mwy am y prosiectau ymchwil eang y maent yn cymryd rhan ynddynt.

"Mae Cymrodoriaethau Ernest Rutherford yn gyfle gwych i ni feithrin perthynas barhaol â rhai o sefydliadau academaidd blaenllaw'r byd ac i chwilio am gyfleoedd i ddatblygu rhwydweithiau ymchwil a chydweithredu posibl."

Rhannu’r stori hon

Mae ein cymuned fyd-eang, ein henw da a’n partneriaethau wrth galon ein hunaniaeth.