Ewch i’r prif gynnwys

Rhedwyr yr hanner marathon yn gwario £2.3m yn y ddinas

24 Medi 2018

Cardiff Half Marathon

Bu rhedwyr Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd y llynedd yn gwario £2.3 miliwn yn ystod eu hymweliad â’r ddinas, yn ôl astudiaeth newydd.

Bu’r gwaith ymchwil gan Brifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â threfnwyr y ras, Run 4 Wales, yn cymryd i ystyriaeth wariant ar eitemau fel bwyd a diod, llety, teithio, manwerthu a’r tâl am redeg y ras.

Gwariwyd ychydig dros £205,000 yng ngweddill Cymru, sy’n codi’r cyfanswm i £2.5 miliwn.

Bu’r astudiaeth, gan Dr Andrea Collins yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio a’r Athro Max Munday yn Ysgol Fusnes Caerdydd, yn edrych nid yn unig ar yr effaith economaidd, ond hefyd ar effaith ras 2017 o ran teithio.

Roedd y gwaith ymchwil yn awgrymu y gallai cludiant cyhoeddus cynharach a mwy mynych ar ddiwrnod y ras, mentrau rhannu ceir, a digon o gyfleusterau diogel i storio beiciau annog y rhedwyr i deithio mewn modd mwy cynaliadwy.

Mae Run 4 Wales yn defnyddio’r canfyddiadau i lywio’r cynlluniau ar gyfer ras eleni.

Dywedodd Prif Weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman: “Mae’n rhoi cymaint o foddhad gweld effaith gadarnhaol digwyddiad cyfranogiad torfol mwyaf Cymru ar economi’r wlad.  Mae Run 4 Wales yn gorff nid-er-elw, ac mae’n buddsoddi canran fawr o’r arian a ddaw i law trwy daliadau’r ras mewn rhedeg ar lawr gwlad.

“Daw rhedwyr a chefnogwyr o bell ac agos i gael profiad o’n prifddinas ar ddiwrnod y ras, a bydd y trefnwyr yn parhau i drafod gyda darparwyr teithio lleol, gyda’r nod nid yn unig o leihau’r traffig yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, ond hefyd i wella cynaliadwyedd cyffredinol y ras.

“Un o brif amcanion Run 4 Wales yw lleiafu effaith amgylcheddol ein catalog o rasys, ac rydym bellach mewn sefyllfa lawer gwell i leihau ôl-troed carbon Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd.”

Dywedodd Dr Andrea Collins: “Gall sut mae ymwelwyr yn teithio i ddigwyddiadau chwaraeon neu ddiwylliannol mawr greu gofynion sylweddol o ran adnoddau, a chael effaith fawr ar yr amgylchedd.

“Mae ein gwaith ymchwil wedi cynnwys defnyddio Pecyn Offer eventIMPACTS UK Sport, ac mae’n sicrhau gwell dealltwriaeth i Run 4 Wales o’r heriau mae rhedwyr yn eu hwynebu wrth gynllunio’u taith, a sicrhau eu bod yn cyrraedd mewn da bryd ar gyfer dechrau’r ras."

Dr Andrea Collins Senior Lecturer

“Gall gynorthwyo Run 4 Wales a darparwyr cludiant cyhoeddus i gynllunio ras fwy cynaliadwy ym mhrifddinas Cymru.”

Er bod y rhedwyr wedi gwario £2.3 miliwn yng Nghaerdydd, mae’r effaith luosogi - lle mae arian sy’n cael ei wario yn rhaeadru i lawr trwy’r economi er budd i eraill - yn golygu y byddai cyfanswm yr hwb i’r economi leol gryn dipyn yn fwy na’r ffigur hwn.

Bu’r rhedwyr yn gwario fwyaf yng Nghaerdydd ei hun, ond digwyddodd peth o’r gwariant - yng nghyswllt llety a theithio er enghraifft - mewn mannau eraill yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.

“Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod digwyddiadau a drefnir yn lleol yn gallu darparu enillion economaidd sylweddol i’r ddinas a’r ardaloedd o amgylch. Fodd bynnag, mae’r astudiaeth hefyd yn dangos pwysigrwydd cadw cydbwysedd rhwng y rhifau economaidd a rhoi sylw dyledus i effeithiau amgylcheddol y digwyddiad.”

Yr Athro Max Munday Director of Welsh Economy Research Unit

Roedd chwarter y rhedwyr yn dod o Gaerdydd, ac ychydig dros hanner o weddill Cymru, fel bod ychydig dan chwarter yn dod o weddill y Deyrnas Unedig, yn bennaf Gorllewin Lloegr a Llundain.  Roedd llai nag 1% o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Amcangyfrifir bod y rhedwyr wedi teithio 3.8 miliwn cilometr i gymryd rhan yn y ras.  Bu 72% yn teithio mewn car, 11% yn cerdded a beicio, 7% yn teithio ar goets a bws mini, a dim ond 10% ddefnyddiodd gludiant cyhoeddus.

Serch hynny, dywedodd y rhedwyr y byddent yn fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau bws a rheilffordd petai gwasanaethau cynharach, uniongyrchol a mwy mynych, er enghraifft, ar gael ar ddiwrnod y ras.

Dywedodd rhai rhedwyr hefyd fod modd cymell pobl i feicio trwy ddarparu digon o le storio diogel i feiciau.

Meddai Dr Collins: “Gall fod yn anodd i redwyr o rai rannau o’r wlad deithio i’r digwyddiad heblaw am mewn car.

“Fodd bynnag, mae gan Gaerdydd gysylltiadau cymharol dda o ran gwasanaethau cludiant cyhoeddus.

“Byddai galluogi rhedwyr sy’n byw ar gyrion Caerdydd i ddefnyddio’r rheilffordd ar ddiwrnod y ras nid yn unig yn gwneud cyfraniad sylweddol at leihau effaith amgylcheddol y digwyddiad, ond hefyd yn ymdrin â thagfeydd traffig a phroblemau parcio.

Eleni, mae’r rhedwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio dulliau teithio mwy cynaliadwy i gyrraedd y digwyddiad.

Bydd cyflwyno gorsafoedd ‘OVObike’ lluosog ar draws y ddinas yn golygu bod modd i redwyr o’r ardal leol gyrraedd y ras ar feic a rennir a lleihau’r straen ar ffyrdd y ddinas.

Mae’r trefnwyr hefyd yn ceisio mwyafu effaith economaidd gadarnhaol y ras.

Seiliwyd y data ar ymatebion gan 3,292 o redwyr hanner marathon Caerdydd mewn arolwg ar-lein wedi’r ras.

Mae astudiaeth debyg yn cael ei chynnal ar gyfer hanner marathon eleni ac mae’r rhedwyr wedi derbyn arolwg i’w lenwi cyn y ras.

Prifysgol Caerdydd yw’r noddwr a enwir ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd.

Cynhelir ras eleni – sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 15 oed – ddydd Sul, 7 Hydref.

Rhannu’r stori hon