Ewch i’r prif gynnwys

Trydedd wobr ‘eithriadol’ i Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn yr Ysgol Busnes

20 Medi 2018

Aris

Mae academydd, a ddefnyddiodd ei arbenigedd i helpu cwmni blaenllaw yng ngogledd Cymru i ennill cytundeb amddiffyn gwerth £82m, wedi ennill anrhydedd ‘eithriadol’ am y trydydd tro am drosglwyddo gwybodaeth.

Mae arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd wedi datblygu cyfarpar i wella gwaith rhagweld stocrestrau Qioptiq, sydd wedi’i leoli yn Sir Ddinbych.

Manteisiodd y cwmni ar arbenigedd Ysgol Busnes Caerdydd i geisio gwella eu gallu i ragweld, creu cadwyni cyflenwi mwy diwastraff a lleihau costau.

Arweiniodd yr Athro Aris Syntetos y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth hon dros ddwy flynedd, a alluogodd i Gydymaith mewn rhagfynegi diwastraff, Thanos Goltsos, weithio’n uniongyrchol gyda Qioptiq dan oruchwyliaeth yr Athro Mohammed Naim.

Roedd y prosiect arloesedd yn help i Qioptiq gael cytundeb chwe blynedd gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) i wasanaethu offer gweld yn y tywyllwch.

Yr anrhydedd, a gafodd ei gyflwyno gan banel o feirniaid arbenigol o Innovate UK, yw trydydd llwyddiant ‘eithriadol’ yr Athro Syntetos, yn dilyn dwy bartneriaeth flaenorol gyda Panalpina – arweinydd byd-eang mewn atebion cadwyni cyflenwi.

Roedd y cwmni o’r Swistir yn fodlon iawn ar y canlyniadau, ac o ganlyniad i hyn cefnogodd Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu a Logisteg Panalpina (PARC).

Wrth groesawu’r drydedd wobr, dywedodd yr Athro Syntetos: “Dwi wrth fy modd gyda’r gydnabyddiaeth rydym wedi ei chael. Mae’n deyrnged i bawb oedd ynghlwm â’r gwaith, o ymchwil eithriadol Thanos – a ddaeth â manteision economaidd sylweddol i un o gwmnïau mwyaf arloesol Cymru – i oruchwyliaeth ymroddedig yr Athro Naim. A thalentau a gwaith caled y goruchwylwyr Dr Franck Lacan a Dr Xun (Paul) Wang, a Chymdeithion KTP, Nicole Ayiomamitou, Fevos Charalampidis a Rishi Pawar, a oedd yn gyfrifol am lwyddiant y ddwy bartneriaeth ddiwethaf.”

Dywedodd Paul Thomas, Rheolwr Busnes yn y Gwasanaethau Ymchwil, Arloesedd a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae hon yn stori llwyddiant wych arall yn ein hanes hir o weithio gyda sefydliadau drwy gynllun KTP. Mae'r Brifysgol wedi ffurfio dros 200 o bartneriaethau gyda sefydliadau bach a byd-eang ers i'r cynllun ddechrau yn y 1970au, o gwmnïau mawr i elusennau, gan ychwanegu gwerth economaidd a chymdeithasol sylweddol.”

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.