Ewch i’r prif gynnwys

Dyfarnu arian ar gyfer ymchwil canser y fron

17 Medi 2018

Lab team

Mae Prifysgol Caerdydd a chwmni biodechnoleg Cellesce wedi cael arian gan Innovate UK mewn ymgais i ddod o hyd i therapïau newydd ar gyfer canser y fron.

Bu'r cwmni, sydd wedi ei leoli yn Medicentre Caerdydd, yn arloeswr o ran datblygu organoidiau – clystyrau 3D o gelloedd sy'n tyfu i fod yn fersiynau bychain o organau.

Mae ganddynt nodweddion a ffisioleg tri-dimensiwn organau go iawn, gan gynnig posibiliadau unigryw ar gyfer ymchwil feddygol sy'n canolbwyntio ar ganfod cyffuriau a meddyginiaeth bersonol.

Bydd y dyfarniad yn ariannu prosiect ar y cyd sy’n ceisio gwella ymchwil ynghylch uwchraddio'r organoidiau. Y nod yw canfod therapïau newydd ar gyfer canser y fron. Yn ogystal, mae'n adeiladu ar yr arbenigedd y mae'r ddau dîm eisoes wedi'i sefydlu o ran organoidiau canser y colon a'r rhefr

Gan ddefnyddio organoidiau wrth sgrinio yn rhan o'r broses o ganfod cyffuriau, gall gwyddonwyr nodi cyfansoddion gweithredol yn gyflymach a chael gwared ar gyfansoddion llai atyniadol cyn mynd i gostau uwch yn nes ymlaen.

Yn ôl yr Athro Trevor Dale, Cyfarwyddwr Technoleg yn Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd: "Un o'r rhwystrau wrth geisio nodi triniaethau newydd ac effeithiol yw pa mor gywir yw ymateb y celloedd i'r cyfansoddion a brofir gennych gan nad yw celloedd mewn dysgl petri fel arfer yn ymddwyn yn yr un modd ag y byddent yn y corff.

Yn ôl Dr Mark Treherne, Prif Swyddog Gweithredol Cellesce: "Mae Cellesce eisoes yn cynhyrchu organoidiau'r colon a'r rhefr ar raddfa fasnachol at ddiben ymchwil ac er mwyn sgrinio yn rhan o'r broses canfod cyffuriau.

"Mae 90% o gyfansoddion wrth gam cynnar yn methu â dangos effeithlonrwydd clinigol perthnasol. Felly, bydd ymestyn ystod y meinweoedd canser y gallwn eu darparu ar raddfa yn galluogi rhagor o gwmnïau fferyllol i gofleidio technoleg organoid. Credwn y bydd hynny'n cynnig model mwy cadarn, perthnasol a chost-effeithlon ar gyfer sgrinio cyfansoddion cyffuriau newydd."

Mae Cellesce, a sefydlwyd yn 2013, yn seiliedig ar arbenigedd ym maes bioleg celloedd ac organoid gan Brifysgol Caerdydd, ac arbenigedd peirianneg biocemegol a bioproses gan Brifysgol Caerfaddon. Mae'r cwmni'n canolbwyntio ar gyflenwi organoidiau canser safonol ag iddynt nodweddion eglur i'w cymhwyso ar raddfa eang megis sgrinio cyfansoddion, yn enwedig ar gyfer anghenion sgrinio trwygyrch uchel, lle mae galw am lawer o sypiau atgynyrchadwy.

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil