Ewch i’r prif gynnwys

Ailfeddwl Twf

7 Medi 2017

Compass with Welsh economy concept

Nid yw'r modelau twf presennol yng Nghymru yn gynaliadwy, ac mae angen ailfeddwl polisïau economaidd er mwyn creu model mwy dosbarthol ac effeithlon, yn ôl dau academydd o Brifysgol Caerdydd mewn papur newydd.

Yn Rethinking Growth: Toward the Well-being Economy, mae Dr Mark Lang a'r Athro Terry Marsden o Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy y Brifysgol, yn archwilio i'r drafodaeth academaidd a pholisi gynyddol ynglŷn â pha mor ddymunol yw twf economaidd o safbwynt economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Maen nhw'n awgrymu bod twf fel y mae llunwyr polisïau yn anelu ato yn dueddol o fod yn ‘echdynnol’ ac yn anghynaliadwy. Yn lle hynny, maen nhw'n dadlau o blaid math o dwf sy'n gadarnhaol o safbwynt cymdeithasol ac ecolegol, a allai gael effaith gadarnhaol mewn cymunedau penodol.

Dywedodd Dr Mark Lang: “Yng Nghymru mae gennym gyfle pwysig i ystyried y materion hyn, oherwydd mae deddfwriaeth ddiweddar Llywodraeth Cymru yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi gosod dyletswydd cynaliadwyedd ar bob corff cyhoeddus datganoledig...”

“Mae angen i ni ystyried ffyrdd gwahanol o fesur llwyddiant, ac effaith tebygol deddfwriaeth llesiant o safbwynt polisi, yn enwedig o safbwynt llunio polisïau economaidd.”

Dr Mark Lang Honorary University Associate

Yn gall, effeithiol, cynaliadwy ac yn seiliedig ar leoedd

Mae'r academyddion yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r ddeddfwriaeth arloesol hon ar waith yn ei pholisïau economaidd er mwyn cyflawni amcanion y ddeddfwriaeth, sef diogelu llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

Ychwanegodd Dr Lang: “Mae'r modelau twf a ddefnyddir ar hyn o bryd yn aneffeithiol ac yn anghynaliadwy, am eu bod yn dibynnu ar adnoddau naturiol a dynol cyfyngedig.  Maent wedi arwain at anghydraddoldebau sy'n cynhyrchu costau anfforddiadwy.   Llesiant, yn hytrach na thwf, ddylai fod y prif faen prawf i fesur llwyddiant.  Drwy anelu at hyn, dylai twf gyfrannu at lesiant; dylai fod yn gall, effeithiol, cynaliadwy ac yn seiliedig ar leoedd”.

Bydd Dr Lang a'r Athro Marsden yn cyflwyno seminar Rethinking Growth: Toward the Well-being Economy nos Lun 18 Medi rhwng 5.30pm a 7pm. I glywed mwy am eu gwaith, cofrestrwch yma.

Rhannu’r stori hon