Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd fawr yn archwilio newid daearyddol mewn tirwedd

29 Awst 2018

Skyline

Cynhadledd Ryngwladol Flynyddol y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydain) - y gynhadledd ddaearyddiaeth fwyaf yn Ewrop yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd yr wythnos hon.

Bydd dros 1,600 o ddaearyddwyr yn mynd i’r Gynhadledd Ryngwladol Flynyddol, gan ei gwneud y gynhadledd fwyaf gan Gymdeithas y tu allan i Lundain hyd yn hyn. Bydd dros 360 o sesiynau yn cyflwyno ymchwil newydd ar bynciau fel bwyd, toriadau, newid yn yr hinsawdd, mudo, ynni adnewyddadwy, cydlyniant cymdeithasol a'r amgylchedd.

Yr Athro Paul Milbourne o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yw’r cadeirydd eleni, ac mae wedi dewis 'Tirweddau daearyddol a'r newid daearyddol mewn tirwedd' fel thema.

Mae tirwedd wedi bod yn gysyniad canolog mewn daearyddiaeth ers amser maith. Mae'r cyfarfod pedwar diwrnod yn gyfle i fyfyrio’n beirniadol ar sefyllfa'r dirwedd mewn daearyddiaeth gyfoes. Bydd hefyd yn ceisio datblygu deialog rhwng daearyddwyr dynol a ffisegol yn ogystal ag ymchwilwyr o ddisgyblaethau cysylltiedig eraill sy'n gweithio ar dirwedd.

Wrth sôn am y thema, dywedodd yr Athro Milbourne: “Mae'n adeg bwysig i feddwl am dirwedd yn y DU - mae toriadau llym a phwysau o fewn tirweddau trefol, a chwestiynau ynghylch dyfodol ein parciau cyhoeddus a mannau gwyrdd mewn dinasoedd.

“O ran Brexit, mae cwestiynau mawr yn cael eu gofyn ynglŷn â dyfodol y dirwedd wledig yn y DU. Ac yn fwy cyffredinol, wrth i ni wrando ar raglenni radio a gwylio ein teledu, mae llawer o raglenni ar gael sy'n canolbwyntio ar wahanol agweddau o dirweddau yn y wlad...”

“Dewiswyd y thema i fod yn fwriadol eang, felly bydd cynrychiolwyr yn cyfrannu at agweddau hanesyddol, cyfoes a'r dyfodol ar draws amrywiaeth o leoedd - mannau trefol, gwledig, ôl-ddiwydiannol, ôl-drefedigaethol a threfedigaethol yn ymwneud â gormes, cyfiawnder, cymuned a gofal.”

Yr Athro Paul Milbourne Head of the School of Planning and Geography

Mae’r pynciau a drafodir yn y 1,300 a mwy o bapurau a gyflwynir yn cynnwys:

  • Diwylliannau gofal sy’n wynebu toriadau llym, o ofal plant at ddefnydd bwyd banc;
  • Trafnidiaeth nos a sut i wella mynediad i weithwyr nos sy’n ennill incwm isel;
  • Cynaliadwyedd bwyd, gan gynnwys y ffyrdd gorau o leihau ôl-troed dŵr a charbon mewn prydau ysgol;
  • Edrych ar effaith cynlluniau rhannu beic.

Gwelwch yma am raglen lawn y gynhadledd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.