Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd RGS yn denu niferoedd uwch nag erioed i Gaerdydd

17 Gorffennaf 2018

Bydd Prifysgol Caerdydd yn croesawu Cynhadledd Ryngwladol Flynyddol 2018 y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, 29 – 31 Awst.

Mae’r paratoadau’n mynd rhagddynt yn dda ar gyfer cynhadledd nodedig RGS, sy’n denu cynrychiolwyr o bob cwr o'r byd. Mae’n edrych yn debygol y bydd eleni’n torri sawl record, gan fod disgwyl i 1,600 o gynrychiolwyr ymweld â Chaerdydd ar gyfer y digwyddiad, fydd yn golygu mai dyma gynhadledd flynyddol RGS a ddenodd y nifer mwyaf o gynrychiolwyr y tu allan i Lundain.

Cynhelir mwy na 360 o sesiynau eleni, gan gynnwys darlithoedd llawn a phaneli, sesiynau a gynullwyd, gweithdai a phrofiadau maes. Bydd y cynrychiolwyr hefyd yn gallu manteisio ar raglen gymdeithasol a diwylliannol fywiog i’w symbylu, a fydd yn eu cyflwyno i olygfeydd a seiniau prifddinas Cymru.

Yr Athro Paul Milbourne, Pennaeth Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, yw Cadeirydd cnhadledd 2018 ac mae wedi dewis tirweddau daearyddol / y newid yn nhirweddau daearyddiaeth yn thema ar gyfer y gynhadledd.

Esboniodd yr Athro Milbourne fod “thema’r gynhadledd yn fwriadol eang fel bod y cynrychiolwyr yn cael rhyddid i archwilio tirweddau mewn amrywiaeth o gyd-destunau gwahanol - hanesyddol, cyfoes ac i’r dyfodol - ac ar draws llawer o fannau gwahanol”.

Ychwanegodd: "Mae'n bleser cael cadeirio cynhadledd eleni, sy’n dychwelyd i Gymru am y tro cyntaf ers 25 mlynedd. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cannoedd o gynrychiolwyr i Gaerdydd, ac i Brifysgol Caerdydd, ar gyfer rhaglen gyffrous o ddarlithiau pwysig a sesiynau llawn. Rwy’n gwbl sicr y bydd y gynhadledd unwaith eto yn darparu amgylchedd rhagorol ar gyfer datblygu cysylltiadau newydd, dadleuon academaidd meddylgar a iach, a chyfle i ail-bwysleisio gwerth byd-eang ac effaith ysgolheictod daearyddol."

Ewch i wefan cynhadledd RGS i weld y rhaglen dros dro ar gyfer cynhadledd 2018.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.