Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant bwrsariaeth ar gyfer graddedigion diweddar

9 Awst 2018

Tri myfyriwr yn cael Bwrsariaethau Rees Jeffreys i astudio ar lefel ôl-raddedig yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio.

Mae Elliot Carty, Duncan Lawrence a Victoria Ryan, a raddiodd o'u rhaglenni israddedig yr wythnos ddiwethaf (16 Gorffennaf), wedi cael gwobr o £10,000 yr un i astudio MSc Trafnidiaeth a Chynllunio ym mlwyddyn academaidd 2018/19.

Mae Cronfa Ffyrdd Rees Jeffreys, sy'n ariannu'r bwrsariaethau, yn cefnogi addysg ac ymchwil i drafnidiaeth a phriffyrdd ym mhrifysgolion y DU. Mae'n gwneud hyn yn bennaf drwy gynnig bwrsariaethau i breswylwyr y DU sy'n astudio amser llawn ar raglenni gradd Meistr a addysgir.

Eleni, dyfarnwyd naw bwrsariaeth, gydag arian i dalu costau ffioedd academaidd a chostau byw yn ystod y flwyddyn astudio.

Dywedodd Dr Dimitris Potoglou, cyfarwyddwr rhaglen MSc Trafnidiaeth a Chynllunio yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: "Hoffwn longyfarch Elliot, Duncan a Victoria ar eu ceisiadau llwyddiannus am fwrsariaethau Rees Jeffreys. Mae'n hyfryd gweld bod traean o'r bwrsariaethau sydd ar gael wedi mynd i fyfyrwyr o'r Ysgol, sy'n cydnabod eu talent a'u brwdfrydedd dros ymchwil trafnidiaeth a chynllunio."

Yr Ysgol sy'n dechrau ac yn hwyluso'r broses o wneud ceisiadau am Fwrsariaethau Rees Jeffreys. Cysylltwch â Dr Dimitris Potoglou i gael rhagor o wybodaeth am y bwrsariaethau a'r rhaglen MSc Trafnidiaeth a Chynllunio.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.