Ewch i’r prif gynnwys

Disgyblion ysgol yn ymweld ar gyfer cyfres o weithdai a dosbarthiadau meistr cerddorol

1 Rhagfyr 2017

Composition workshop sixth form students School of Music

Y mis hwn, aeth disgyblion o Goleg Chweched Dosbarth Henffordd, Ysgol Uwchradd Casnewydd a Choleg Gwent i gyfres o weithdai a dosbarthiadau yn yr Ysgol Cerddoriaeth i’w helpu gyda’u hastudiaethau.

Ymwelodd chwe deg o fyfyrwyr â’r Ysgol ar gyfer gweithdai mewn technegau cyfansoddi a stiwdio, dosbarthiadau ar genres ffilmiau a theatr gerddorol, yn ogystal â chael cyfle i weld cyfleusterau’r Ysgol.

Helpodd y myfyrwyr MA presennol, Iestyn Griffiths a Matt Lush, i drefnu a chynnal y gweithdai gyda chefnogaeth Dr Daniel Bickerton, ein Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig. Trefnodd y myfyrwyr ôl-raddedig y sesiynau a ysbrydolwyd gan eu modiwl Arweinyddiaeth Gerddorol ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd. Nod y modiwl yw galluogi perfformwyr a chyfansoddwyr i ddatblygu a chyflwyno perfformiadau o syniadau cerddorol effeithiol a llawn dychymyg i’r genhedlaeth nesaf o gerddorion ifanc talentog.

Yn ystod y sesiynau, dysgodd y myfyrwyr dechnegau offeryniaeth arbennig; technegau dadansoddi ac ysgrifennu am gerddoriaeth; sut i ddefnyddio Logic Pro X i gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilmiau; sut i gyfansoddi cân; a strwythuro effeithiol ar gyfer cyfansoddiadau newydd.

Fe fwynhaodd y myfyrwyr hefyd sesiwn holi ac ateb llawn gwybodaeth gyda Matt Lush ar astudio Cerddoriaeth mewn Addysg Uwch, a heriau cyfansoddi cerddoriaeth ‘wreiddiol’ yn 2017.

Music Students Coleg Gwent Newport Cardiff University School of Music

Yn ôl Ben Southwick, disgybl o Goleg Chweched Dosbarth Henffordd: “Mwynheais fy mhrofiad yn yr Ysgol Cerddoriaeth yn fawr am iddo alluogi i mi gael blas ar fywyd prifysgol yng Nghaerdydd, Mae wedi helpu i roi syniad mwy eglur i mi o’r hyn rwyf am wneud gyda fy addysg ar ôl gadael y chweched dosbarth.”

Yn ôl Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Coleg Chweched Dosbarth Henffordd, Aryan O. Arji: “Rwy’n ddiolchgar dros ben am yr holl amser ac ymdrech a roesoch ar gyfer gwneud y digwyddiad yn un mor addas i’n myfyrwyr. Cawsant eu hysbrydoli’n fawr ac ryw’n gwybod y bydd llawer yn gwneud ceisiadau i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.”

Yn olaf, ychwanegodd Dr Bickerton: “Cafodd Matt, Iestyn a minnau’r cyfle i weithio gyda disgyblion diddorol a thalentog; mae mor bwysig bod gan gerddorion ifanc y cyfle i gysylltu a’r ddisgyblaeth yn y modd hwn ac rydym wrth ein boddau i fod wedi darllen adborth mor gadarnhaol am y profiadau ymgysylltu rydym yn eu cynnig yn yr Ysgol Cerddoriaeth.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.