Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn canfod fod pobl ifanc sy'n aml yn dadlau â'u rhieni yn well dinasyddion

20 Gorffennaf 2018

Mother arguing with son

Mae astudiaeth wedi dangos fod plant yn eu harddegau sy'n gwrthdaro'n rheolaidd â'u rhieni yn fwy tebygol o fod wedi rhoi eu hamser i elusen neu achos dyngarol.

Roedd yr arolwg o bobl ifanc 13 a 14 oed a gynhaliwyd gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dangos fod y rhai a oedd yn dadlau "llawer" gyda'u rhieni, o gymharu â'r rhai nad oedd "byth" yn dadlau, hefyd yn fwy tebygol o fod wedi bod yn gysylltiedig â sefydliad hawliau dynol yn y 12 mis diwethaf, ac i fod wedi cysylltu â gwleidydd neu lofnodi deiseb.

Dywedodd yr Athro Sally Power, Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) a arweiniodd yr astudiaeth: "Yn draddodiadol, mae dadleuon rhwng plant yn eu harddegau a rheini wedi cael ei ystyried yn annerbyniol ac yn rhan anodd a llawn straen o dyfu i fyny.

"Ond mewn gwirionedd, mae ein hymchwil yn awgrymu y gall ddadleuon fod yn ffordd y mae pobl ifanc yn caffael sgiliau dadlau sy'n eu galluogi i fod â lefelau uwch o ymgysylltu sifig."

Mae'r ymchwil hefyd yn dangos:

  • Mae merched bron ddwywaith yn fwy tebygol o ddadlau gyda'u mam a'u tad ynghylch eu dillad;
  • Mae merched yn fwy tebygol o ddadlau gyda'u mam ynghylch gwaith tŷ;
  • Mae bechgyn ddwywaith mor debygol o ddadlau â'u mamau (ond nid eu tadau) am wleidyddiaeth;
  • Mae bechgyn hefyd yn fwy tebygol o ddadlau gyda'u mamau ynghylch gwaith cartref.

Wrth ganolbwyntio ar ethnigrwydd yr ymatebwyr, datgelodd yr ymchwil fod pobl ifanc gwyn yn eu harddegau yn fwy tebygol na phobl o gefndiroedd Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) o ddadlau am waith tŷ ac arian. Dangosodd y dadansoddiad hefyd fod ymatebwyr BAME saith gwaith yn fwy tebygol o ddadlau ynghylch crefydd.

Yn ôl yr arolwg, roedd mamau yn fwy tebygol o ddadlau â'u plant na thadau. Dywedodd bron i 83% o bobl yn eu harddegau eu bod erioed wedi dadlau gyda neiniau a theidiau.

Dywedodd yr Athro Power: "Mae ein hymchwil yn dangos rhai gwahaniaethau diddorol rhwng dynion/bechgyn a menywod/merched, yn ogystal â'r gwahaniaeth rhwng teuluoedd gwyn a theuluoedd BAME. Mae angen inni ymchwilio'n ddyfnach pam mae hyn yn digwydd, a pha effeithiau a gaiff hyn wrth i blant dyfu."

Mae'r ymchwil o ganolfan ymchwil prosiect Cymdeithas Sifil ESRC 'Trosglwyddo ‘rhinweddau sifig’ rhwng y cenedlaethau: rôl y teulu mewn ymgysylltiad cymdeithas sifil'. Mae'r canfyddiadau yn deillio o arolwg o 976 o bobl ifanc rhwng 13 ac 14 oed yng Nghymru a gynhaliwyd rhwng Hydref 2016 - Mawrth 2017.

Rhannu’r stori hon

Rhagorwn mewn ymchwil ryngddisgyblaethol sydd â ffocws clir ar bolisi.