Ewch i’r prif gynnwys

Yr Ysgol Cerddoriaeth yn lansio cystadleuaeth gyfansoddi i gynfyfyrwyr

16 Gorffennaf 2018

Cardiff University Symphony Orchestra Performing

Mae Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd wedi lansio cystadleuaeth gyfansoddi flynyddol ar gyfer cynfyfyrwyr yr Ysgol.

I gefnogi gwaith gwych a pharhaus ein cynfyfyrwyr, bydd Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd yn perfformio un cyfansoddiad gan gynfyfyriwr o’r Ysgol Cerddoriaeth bob blwyddyn.

Mae gan yr Ysgol Cerddoriaeth restr nodedig o gynfyfyrwyr sy'n gyfansoddwyr y gorffennol a'r presennol. Yn eu plith mae Grace Williams, Alun Hodinott, Hilary Tann a Philip Cashian, yn ogystal â chymuned gref o raddedigion cyfredol a diweddar, a chyfansoddwyr ôl-raddedig.

Caiff darn yr enillydd cyntaf ei berfformio gan y Gerddorfa Symffoni ddydd Sul 31 Mawrth 2019 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Gwahoddir holl gynfyfyrwyr yr Ysgol Cerddoriaeth i gyflwyno cais. Caiff y sgôr buddugol ei ddewis gan aelodau'r staff Cyfansoddi ac Academaidd, ynghyd ag arweinydd y Gerddorfa Symffoni, Mark Eager.

Nid oes terfyn oedran ar gyfer ymgeiswyr, gwahoddir holl gynfyfyrwyr yr Ysgol Cerddoriaeth i gyflwyno cais.

Croesewir darnau sydd eisoes wedi'u perfformio am fod yr Ysgol yn chwilio am safon ac addasrwydd i'w berfformio gan Gerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd.

Anogir ymgeiswyr i gyflwyno darnau na chawsant eu perfformio o'r blaen hefyd.

Mae'n rhaid bod cyfansoddwr y gwaith buddugol ar gael i fynd i'r ymarfer terfynol, ac mae'n bosibl y gofynnir iddo/iddi wneud mân-newidiadau i'r sgôr yn ôl y gofyn ar gyfer ymarferion a pherfformiad gan y Gerddorfa Symffoni.

Hyd: Dylai sgorau fod rhwng 7' ac 20' munud.

Offeryniaeth: Dylai'r darnau fod ar gyfer cerddorfa yn unig, gyda'r manyleb canlynol fel uchafswm:
3(inc. picc).2.3(inc. bc).2/4.3.3.1/Hp.Pno.Timp.3Perc/Strings (ca. 7.7.6.6.3)

Cyflwynwch PDF o'r sgôr llawn, ynghyd â bywgraffiad 100 o eiriau a'r flwyddyn pan raddiodd y cyfansoddwr i musicoffice@caerdydd.ac.uk erbyn 17:00 ddydd Llun 1 Hydref 2018.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.