Ewch i’r prif gynnwys

Rhestr gynhwysfawr o enwau lleoedd Cymru wedi’i chyhoeddi

29 Mehefin 2018

Map Eisteddfod

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd ymhlith panel o arbenigwyr sydd wedi paratoi rhestr sy’n cynnig sillafiad safonol ar gyfer enwau lleoedd yng Nghymru.

Mae’r rhestr, sydd ar gael ar-lein ar wefan Comisiynydd y Gymraeg, yn cynnwys bron i 3,000 o enwau pentrefi, trefi a dinasoedd, ac mae’n ffrwyth blynyddoedd o waith ymchwil ac ymgynghori yn y maes.

Roedd Dr Dylan Foster Evans o Ysgol y Gymraeg yn aelod o'r panel. Dywedodd: “Mae enwau lleoedd yn rhan o’n treftadaeth a’n hunaniaeth – dyna pam y mae cymaint ohonom â diddordeb byw ynddynt.

"Dim ond yn yr ugeinfed ganrif y cafodd system sillafu’r Gymraeg ei safoni’n drylwyr. Bu enwau lleoedd yn araf deg yn dilyn y drefn honno: mae sillafiad megis Caernarvon yn edrych fel ffordd Seisnig a hen ffasiwn o sillafu enw’r dref heddiw, ond dyna’r ffurf sydd ar gadair Eisteddfod Genedlaethol 1935!

"Nid pawb a fydd yn cytuno â pob un o'n hargymhellion. Ond mae cytuno ar ffurfiau safonol yn rhywbeth hanfodol os yw’r Gymraeg i fod yn iaith fodern ac addas ar gyfer yr oes ddigidol sydd ohoni."

Wrth safoni enwau lleoedd, mae’r panel o arbenigwyr wedi bod yn dilyn canllawiau penodol.  Maent yn talu sylw i ynganiad a tharddiad yn ogystal â defnydd lleol a defnydd hanesyddol o’r enw.

Yn ystod Eisteddfod yr Urdd, gwahoddwyd ymwelwyr i brofi’r rhestr ar stondin y Comisiynydd. Erbyn diwedd yr wythnos, roedd Arolygiaeth Gynllunio roedd dros 750 o binnau wedi eu rhoi ar y map yn nodi fod enw tref neu bentref ar y rhestr, ac mae unrhyw enwau oedd ‘ar goll’ yn ôl pob golwg wrthi’n cael eu hychwanegu at y rhestr

Dywedodd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg: “Rydym yn hynod o falch ein bod bellach mewn sefyllfa i gyhoeddi rhestr safonol o enwau lleoedd.  Mae’r digwyddiad hwn yn benllanw blynyddoedd o waith ymchwil gan ein tîm bychan o fewn Comisiynydd y Gymraeg mewn ymgynghoriad â phanel o arbenigwyr ar enwau lleoedd.  Rydym yn ddiolchgar iawn i’r arbenigwyr hyn am eu cyfraniad anhepgor at y prosiect hwn yn sicrhau bod sail gadarn i bob un o’r argymhellion.

"Mae gan lawer ohonom farn bersonol am sut i ysgrifennu enwau lleoedd yn ein milltir sgwâr ac mae’n bosibl na fydd pawb yn cytuno â phob argymhelliad ar y rhestr. Nid gorfodi yw ein bwriad, ond yn hytrach argymell, a cheisio sicrhau bod cysondeb yn y modd yr ydym yn sillafu enwau lleoedd yng Nghymru mewn cyd-destunau swyddogol.”

Un o’r sefydliadau sydd eisoes wedi cyhoeddi y byddant yn gwneud defnydd o’r rhestr newydd yw’r Arolwg Ordnans.

Yn ôl Pam Whitham, Rheolwr Perthnasau’r Arolwg Ordnans: "Mae gennym bartneriaeth werthfawr â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.  Maen nhw wedi chwarae rôl allweddol wrth i ni ddatblygu ein Polisi Enwi Cymraeg a sicrhau cysondeb o ran enwau lleoedd yng Nghymru yn ein holl gynnyrch. Rydym yn falch iawn o fod wedi parhau i weithio gyda'r Comisiynydd ac yn croesawu'r rhestr hon fel adnodd gwerthfawr i ddiffinio enwau lleoedd yng Nghymru."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.