Ewch i’r prif gynnwys

Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn dringo 14 lle mewn cynghrair sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr

5 Mehefin 2018

Multiple languages on a blackboard

Mae Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dringo 14 lle yng Nghynghrair Prifysgolion y Guardian, gan gyrraedd yr 21ain safle yn y tabl eleni.

Mae’r safle hwn yn adeiladu ar gynnydd o bedwar lle yng nghynghrair y llynedd.

Mae Cynghrair y Guardian yn graddio prifysgolion ar rai o’r meysydd sydd bwysicaf i bobl ifanc, gan gynnwys ansawdd addysgu a rhagolygon gyrfaol. Mae Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth yng Nghynghrair y Guardian yn cynnwys cyrsiau Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd.

Eleni, mae Cynghrair y Guardian hefyd yn cynnwys sgôr parhad. Mae’r sgôr hwn yn adlewyrchu faint o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sy’n aros ar gyfer yr ail flwyddyn. Sgoriodd Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth 96.7 yn y categori hwn, sy’n dangos bod myfyrwyr yn cael eu cefnogi’n dda, eu bod wedi’u hysgogi a’u bod yn hapus â’u bywydau yn Ysgol y Gymraeg a’r Ysgol Ieithoedd Modern.

Dywedodd yr Athro Rachael Langford, Pennaeth yr Ysgol Ieithoedd Modern: “Mae Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd yn gymuned ddysgu gefnogol ac ysbrydoledig iawn o bron i 1000 o fyfyrwyr, ac felly mae’n rhoi boddhad mawr gweld sgoriau mor gadarnhaol ar gyfer addysgu, dysgu, profiad y myfyriwr a derbyn a recriwtio. Mae staff ar draws yr Ysgol yn mynd yr ail filltir i roi dysgu a lles y myfyriwr wrth wraidd yr addysgu, ac mae canlyniadau’r gynghrair hon yn dyst i hyn. Diolch yn fawr hefyd i’n myfyrwyr am roi adborth mor gadarnhaol ar eu hastudiaethau gyda ni.”

Dywedodd Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, “Yn Ysgol y Gymraeg mae gennym gymuned ddysgu fywiog ac arloesol: mae peth o’n darpariaeth israddedig newydd wedi ei greu  yn uniongyrchol ar sail cydweithio rhwng myfyrwyr a staff. Mae partneriaeth o’r fath yn golygu bod ein myfyrwyr yn graddio wedi cael profiad gwirioneddol gadarnhaol ac yn barod i wneud gwahaniaeth go iawn yn eu dewis feysydd. Mae cynghrair y Guardian yn dangos pam y mae Caerdydd yn lle mor wych ar gyfer astudio’r Gymraeg, ac mae hefyd yn dyst i frwdfrydedd a gwaith caled ein holl fyfyrwyr.”

Rhannu’r stori hon