Ewch i’r prif gynnwys

Gwneud ei marc ym maes newyddiaduraeth

25 Mai 2018

Llun o fyfyrwraig gyda'i tlws am Fyfyriwr Newyddiadurwr y Flwyddyn 2018 yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru
Elen Davies, enillydd Gwobr Ed Townsend am Fyfyriwr Newyddiadurwr y Flwyddyn 2018 yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru

Enillodd Elen Davies, myfyriwr blwyddyn olaf BA Cymraeg a Newyddiaduraeth, Wobr Ed Townsend am Fyfyriwr Newyddiadurwur y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru 2018.

Mae Gwobrau Cyfryngau Cymru yn cydnabod llwyddiant newyddiadurol mewn nifer o wahanol gategorïau, gan gynnwys newyddiadurwyr teledu, papurau newydd a chylchgronau, tra bod Gwobr Ed Townsend, a noddir gan Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ), yn cael ei chyflwyno i newyddiadurwr sy’n fyfyriwr. Caiff ei roi er cof am aelod o bwyllgor Elusen y Newyddiadurwyr Rhoddir er cof am aelod o'r Pwyllgor elusen newyddiadurwyr a chwaraeodd rôl arwyddocaol wrth ailsefydlu Gwobrau Cyfryngau Cymru.

Ymunodd myfyriwr arall o Ysgol y Gymraeg ag Elen yn y categori; Liam Ketcher (myfyriwr BA y Gymraeg). Mae’r enwebiadau, a llwyddiant Elen, yn adlewyrchu ymrwymiad y ddau i’w datblygiad proffesiynol, y safonau uchel maent wedi eu cyrraedd ac yr ystod o gyfleoedd ymarferol oedd ar gael iddynt yn ystod eu hastudiaethau.

Ar ôl casglu’i gwobr, soniodd Elen am rôl hollbwysig ei phrofiadau academaidd ac ymarferol yn Ysgol y Gymraeg ac Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant wrth gyfrannu at ei llwyddiant, a’i chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Gwyliwch Elen yn trafod y wobr.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.