Ewch i’r prif gynnwys

Cystadlu am wobr Myfyriwr Newyddiadurwr y Flwyddyn

19 Mawrth 2018

Bydd Liam Ketcher ac Elen Davies, myfyrwyr yn y flwyddyn olaf, yn cystadlu am Wobr Ed Townsend Myfyriwr Newyddiadurwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru, Gwesty Mercure Holland House, Caerdydd ar 23 Mawrth 2018.

Mae Gwobrau Cyfryngau Cymru, wedi’i trefnu gan Elusen y Newyddiadurwyr, yn cydnabod llwyddiannau newyddiadurwyr mewn ystod eang o gategorïau gan gynnwys gohebyddion teledu, papurau newydd a chylchgronau ac fe gyflwynir Gwobr Ed Townsend dan nawdd Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ).

Crëwyd y wobr er cof am aelod o bwyllgor Elusen y Newyddiadurwyr a chwaraeodd ran bwysig iawn wrth ailsefydlu Gwobrau Cyfryngau Cymru. Mae’r noson wobrwyo ei hun yn codi arian dros Elusen y Newyddiadurwyr, sydd yn cefnogi newyddiadurwyr mewn angen. Darperir cyngor, grantiau a ffurfiau eraill o gymorth ariannol i’r rheiny sydd yn dal yn gweithio neu wedi ymddeol.

Sêr y dyfodol

Mae Liam yn astudio ar gyfer BA yn y Gymraeg. Ar hyn o bryd mae’n Olygydd papur newydd Prifysgol Caerdydd, Gair Rhydd, ac yn gyd-sylfaenydd Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (CMCC) sef sy’n rhoi llwyfan i lais newyddiadurol myfyrwyr y brifysgol. Mae rôl Liam fel golygydd y papur wythnosol, yn ogystal â’i waith fel ymchwilydd i raglen ar ddigartrefedd Wales This Week,a’i gyfraniad i brosiect Llais y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn sail i’w enwebiad.

Mae Elen yn fyfyrwraig gyd-anrhydedd BA Cymraeg a Newyddiaduraeth. Sicrhaodd Elen ei henwebiad yn seiliedig ar bortffolio o eitemau newyddiadurol a greodd yn sgil profiadau gwaith amrywiol ar y radd. Roedd y portffolio yn cynnwys erthyglau print a digidol ar themâu megis moesoldeb cabiau du yng Nghaerdydd a Chymru, y Wladfa a Chymreictod. Roedd gwaith Elen ar y Wladfa i BBC Cymru Fyw yn dilyn cyfnod o deithio ym Mhatagonia dan nawdd Ysgoloriaeth Santander Ysgol y Gymraeg.

Tra bod Elen yn astudio’n ffurfiol ar y cyd gyda’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, mae Liam yn elwa o hyblygrwydd rhaglenni gradd yr Ysgol ac amrywiaeth y modiwlau a gynigir. Elfen bwysig iawn o’r ddarpariaeth newyddiadurol yw’r profiadau ymarferol a gynigir i fyfyrwyr i gymhwyso’r sgiliau a ddysgir i gyd-destunau proffesiynol mewn ystod o feysydd gan gynnwys cynhyrchu, darlledu a newyddiaduraeth. Mae’r profiadau hyn, ochr yn ochr â sgiliau ieithyddol gadarn yn y Gymraeg, yn gosod sylfaen arbennig ar gyfer gyrfa ddisglair yn y dyfodol.

Meddai Liam: “Mae’n hyfryd i gael fy enwebu gydag un o’m cyd-fyfyrwyr. Mae Elen yn newyddiadurwraig anhygoel ac rydw i’n edrych ymlaen at ddathlu gyda hi ar y noson. Hoffwn hefyd ddiolch i Siân Morgan Lloyd, fy nhiwtor yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, am ei chyngor a darparu cymaint o brofiadau proffesiynol gwerthfawr.”

Ychwanegodd Elen: “Mae cael fy ngwaith wedi ei werthfawrogi gan bobl broffesiynol yn y maes yn rhywbeth yr wyf yn falch iawn ohono, ac yn hwb enfawr imi ddyfalbarhau er mwyn cyrraedd fy nod o fod yn newyddiadurwraig.

“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at fynychu’r seremoni wobrwyo.”

Dywed Angharad Naylor, darlithydd yn Ysgol y Gymraeg: “Hoffwn longyfarch Liam ac Elen ar eu henwebiadau haeddiannol iawn yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru.

“Fel Ysgol, rydym yn falch iawn o’u llwyddiant ac yn dymuno pob hwyl iddynt ar noson y wobrwyo. Mae gan y ddau ddyfodol disglair iawn ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cyfraniad gwych i weithgareddau’r Ysgol a’r brifysgol.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.