Ewch i’r prif gynnwys

Canmoliaeth i CUBRIC yng ngwobrau Ewrop

14 Mehefin 2018

CUBRIC

Mae Canolfan Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) wedi ennill anrhydedd dylunio arall, y tro hwn yng Ngwobrau Gofal Iechyd Ewrop.

Cafodd CUBRIC, a ddyluniwyd gan Grŵp IBI, ganmoliaeth uchel gan banel o feirniaid rhyngwladol yng nghategori Iechyd a Gwyddorau Bywyd.

Enillwyd y categori gan Sefydliad Francis Crick, sefydliad darganfod biofeddygol yn Llundain sy'n gweithio i ddeall y fioleg sy'n sail i iechyd a chlefydau.

Mae'r gwobrau'n dathlu ac yn cydnabod rhagoriaeth broffesiynol yn nyluniad amgylcheddau gofal iechyd yn Ewrop a ledled y byd.

Dyma'r gydnabyddiaeth ddiweddaraf ar gyfer CUBRIC yn dilyn llwyddiant mewn amryw wobrau yn 2017 gan gynnwys Gwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru, Gwobrau RICS a Gwobrau S-Lab.

At hynny, roedd CUBRIC yn yr ail safle yng nghategori Adeiladau sy'n Ysbrydoli yng Ngwobrau Prifysgol The Guardian 2017.

Mae'r ganolfan yn arwain y byd o ran ymchwil i feysydd fel seicoleg, seiciatreg a'r niwrowyddorau, ac yn gartref i gyfleusterau sganio MRI pwerus, cyfarpar ysgogi'r ymennydd, labordai cwsg, swyddfeydd modern, a mannau ymgynnull.

Agorwyd CUBRIC gan y Frenhines yn 2016.

Rhannu’r stori hon

Our brain scanning facilities are located in the Cardiff University Brain Research Imaging Centre (CUBRIC).