Ewch i’r prif gynnwys

Goruchwyliwr Doethurol Eithriadol

18 Mai 2018

Mae arbenigwr Rheolaeth Gyhoeddus wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad enfawr at oruchwyliaeth ddoethurol yng Ngwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Casglodd Dr Michael Marinetto, o Ysgol Busnes Caerdydd, ei wobr Goruchwyliwr Doethurol Rhagorol ynghyd â 13 o aelodau staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol mewn seremoni wobrwyo flynyddol sy'n cydnabod ymrwymiad y rhai a enwebir at gyfoethogi profiad y myfyrwyr.

“Rydw i'n teimlo mor falch ac emosiynol am y ffaith fy mod i wedi cael y wobr yma, sy'n dyst i'r myfyrwyr talentog rydw i wedi eu goruchwylio. Diolch yn fawr hefyd i'r cyd-oruchwylwyr ardderchog rydw i wedi gweithio â nhw, sef Jean Jenkins a Kate Daunt.”

Dr Michael Marinetto Lecturer in Public Management

Eleni cafwyd dros 600 o enwebiadau ar gyfer yr 14 o wobrau, record newydd i'r Brifysgol.

Yn ogystal â Dr Marinetto, roedd y rhestr hir o enwebiadau'n cynnwys wyth aelod o staff a dau fyfyriwr o Ysgol Busnes Caerdydd:

Staff

  • Dr Eleri Rosier – Aelod Staff Mwyaf Arloesol
  • Dr Jane Lynch – Yr Aelod o Staff sy’n Ysbrydoli Fwyaf
  • Dr Sergey Popov – Yr Aelod o Staff sy'n Ysbrydoli Fwyaf
  • Dr Bahman Rostami-Tabar – Yr Aelod o Staff sy'n Ysbrydoli Fwyaf
  • Gwen Thomas – Yr Aelod o Staff sy'n Ysbrydoli Fwyaf a Chydlynydd Cynrychiolwyr Myfyrwyr y Flwyddyn
  • Eleanor Dart – Aelod o Saff sy'n Ysbrydoli Fwyaf ac Aelod Staff Mwyaf Arloesol
  • Dr Ahmad Jamal – Goruchwyliwr Doethurol Rhagorol
  • Natalie Forde-Leaves – Tiwtor Personol y Flwyddyn

Myfyrwyr

  • Adam Jones – Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn AHSS
  • Syed Anas Ahmed – Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn AHSS

Cynhaliwyd y Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr, a drefnwyd gan Undeb y Myfyrwyr, yn y Neuadd Fawr ddydd Iau 3 Mai.

Rhannu’r stori hon

We are in the top tier of Britain's research universities and a member of the prestigious Russel Group.