Enillydd gwobrau PechaKucha
22 Mai 2018
Mae Uwch-ddarlithydd mewn Marchnata a Strategaeth wedi ennill Cystadleuaeth Cyflwyniad PechaKucha Gorau yng Nghynhadledd Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyrwyr Cymdeithas Siartredig yr Ysgolion Busnes yn Glasgow.
Cafwyd cyflwyniad ag ugain o sleidiau mewn chwe munud gan Dr Eleri Rosier mewn arddull o'r enw PechaKucha, sydd wedi'i ddylunio i gadw cyflwyniadau'n gryno a chyflym, ac i hwyluso sesiynau â mwy nag un siaradwr.
Roedd ei chyflwyniad, o'r enw Prosiectau marchnata byw ac ymgysylltiad myfyrwyr: datblygu sgiliau cyflogadwyedd graddedigion, yn seiliedig ar Brosiect Arloesedd Addysg Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a gwblhawyd mewn cydweithrediad â Thi Anh Minh Tran, myfyrwyr BSc Rheoli Busnes ym mis Gorffennaf ac Awst 2017.
Drwy'r prosiect cafodd Thi Anh gyfle unigryw i gysgodi prosiectau cymunedol blaenllaw ym Mhorth Cymunedol Prifysgol Caerdydd.
Gyda chefnogaeth Dr Rosier, cofnododd Thi Anh y broses a myfyrio'n feirniadol arni, gan gynnig adborth ac arweiniad gwerthfawr ar gyfer prosiectau byw a phartneriaethau rhwng cwmnïau a'r gymuned yn y dyfodol.
Gan edrych yn ôl ar ei chyflwyniad, dywedodd Dr Rosier: “Roedd ugain o sleidiau mewn chwe munud yn gryn her. Roeddwn i am dynnu sylw at oedd datblygiad sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr mewn prosiectau marchnata byw...”
“Y goron ar y cyfan, wrth gwrs, oedd ennill y gystadleuaeth yn y gynhadledd!”
Y Gynhadledd Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyrwyr yw'r cyfarfod mwyaf blaenllaw yn y DU ar gyfer addysgwyr busnes a rheoli, ac mae'n arddangos arferion addysgu arloesol ac ymchwil bedagogaidd o'r radd flaenaf.
Llwyddodd cynhadledd 2018, sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn, i ddenu dros 300 o gynadleddwyr, ac roedd dros 80% o ysgolion busnes y DU wedi eu cynrychioli.
Mae rhestr lawn o'r cyflwyniadau yn Rhaglen Cynhadledd Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyrwyr 2018.