Ewch i’r prif gynnwys

Ras Hwylio Volvo

17 Mai 2018

Volvo Ocean Race

Mae Prifysgol Caerdydd wedi'i chyhoeddi'n bartner lleol blaenllaw yn Ras Hwylio Volvo, prif gyfres hwylio'r byd, pan fydd yn cyrraedd y ddinas ddydd Llun 28 Mai.

Bydd y digwyddiad, a gynhelir am bythefnos, yn denu miloedd o wylwyr i Fae Caerdydd i brofi un o'r arosiadau olaf yn y ras byd-eang 45,000 o filltiroedd môr, a bydd Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau allgymorth ac ymgysylltu.

Bydd Bae Caerdydd ac Alexandra Head, a ddatblygwyd yn ddiweddar, yn cael eu trawsnewid yn bentref ras bywiog, fydd yn cynnal gŵyl rad ac am ddim ag adloniant a cherddoriaeth fyw, chwaraeon dŵr, atyniadau a bwyd â thema Ras Hwylio Volvo, stondinau diodydd a masnachu.

Bydd academyddion o wahanol rannau o'r Brifysgol yn camu i'r bocs sebon i gyflwyno eu hymchwil i bobl sy'n cerdded heibio ym mhentref y ras, yn debyg i'r digwyddiadau 'Gwyddoniaeth Bocs Sebon' hynod lwyddiannus a gynhelir yn y ddinas bob blwyddyn.

Fel rhan o'r Rhaglen Addysg i'r Cyhoedd, bydd academyddion yn trafod nifer o bynciau, gan gynnwys ceryntau'r cefnforoedd a newid hinsawdd, neu ficro-blastigau.

Yn wir, bydd y digwyddiad ei hun yn canolbwyntio'n fawr ar y broblem gynyddol o lygredd plastig yn ein cefnforoedd, a bydd nifer o ymgyrchoedd i godi proffil y broblem anodd hon.

Yn unol â thema amgylcheddol y digwyddiad, bydd y Brifysgol hefyd yn amlinellu ei hymrwymiad i ddyfodol mwy ecogyfeillgar drwy lansio ei Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol yn ystod y digwyddiad.

"Rydym wrth ein bodd, felly, bod cyfle wedi codi nid yn unig i ddinas Caerdydd gynnal y digwyddiad gwych hwn, ond hefyd i'r Brifysgol ddangos ei chefnogaeth mewn mwy nag un ffordd i sicrhau bod y digwyddiad mor llwyddiannus â phosibl."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae Prifysgol Caerdydd yn sefydliad â gwreiddiau dwfn yn ein dinas, ac rydw i wrth fy modd y bydd ganddi bresenoldeb canolog pan fydd Caerdydd ymhlith y dinasoedd fydd yn croesawu Ras Hwylio Volvo yn ddiweddarach y mis hwn.

"Gydag ethos cynaliadwyedd ac addysg am y moroedd yn cael sylw yn y digwyddiad, mae'n briodol bod gan y Brifysgol le yn y rhaglen addysgol i gynnig ei gwybodaeth a'i hymchwil.

“Mae partneriaethau fel hyn yn hanfodol fel y gall Caerdydd barhau i groesawu a chynnal digwyddiadau chwaraeon byd-eang sy'n cynhyrchu hwb economaidd sylweddol i economi Caerdydd a Chymru.

Wrth i'r digwyddiad agosáu, edrychwn ymlaen at groesawu Ras Hwylio Volvo i Gaerdydd a miloedd o ymwelwyr newydd i Gymru, fydd yn cael profiad o brifddinas fywiog a chenedl â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiol."

Rhannu’r stori hon

Rydym yn rhagori mewn addysg, ymchwil ac arloesi ac yn adeiladu perthnasoedd wrth ddangos ein hymrwymiad i Gymru.