Ewch i’r prif gynnwys

Carreg filltir ar gyfer ymchwil llenyddiaeth a gwyddoniaeth

30 Ebrill 2018

Stack of books

Mae cydweithio rhwng y dyniaethau a'r gwyddorau yn elfen allweddol o ddathlu'r problemau mwyaf yr ydym yn eu hwynebu heddiw, yn ôl academydd o Brifysgol Caerdydd.

Yr Athro Martin Willis, o'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, yw golygydd a sylfaenydd The Journal of Literature and Science(JLS), asefydlwyd 10 mlynedd yn ôl.

Mae'n gweithio i ddod â'r syniadau diweddaraf am bwnc llenyddiaeth a gwyddoniaeth o bob cyfnod o hanes llenyddol ac artistig ers y Chwyldro Gwyddonol; o'r Dadeni hyd heddiw. Ers iddo gael ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn 2008, mae ei allbwn blynyddol wedi tyfu i ddwywaith y flwyddyn, sy'n adlewyrchu'r diddordeb cynyddol yn y maes ymchwil hwn.

Mae'r cyfnodolyn yn annog diffiniad eang o 'wyddoniaeth', sy'n cynnwys hanes ac athroniaeth gwyddoniaeth a'r gwyddorau a ystyrir yn rhai prif-ffrwd neu'n rhai ymylol. Mae traethodau am y prif fathau o waith llenyddol ac artistig yn amrywio o'r nofel, ffuglen fer, barddoniaeth a drama, i gelf weledol, cerflunio, radio, ffilm a theledu.

Mae'r maes ymchwil hwn hefyd yn cael ei feithrin o fewn y Brifysgol. Mae menter Dyniaethau a Gwyddorau Caerdydd yn gweithio i ddod ag academyddion o wahanol ddisgyblaethau at ei gilydd. Mae'r fenter, sydd wedi'i arwain gan yr Athro Willis a Dr James Castell yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth a'r Athro Keir Waddington yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, yn hyrwyddo cyfnewid syniadau rhwng ysgolheigion ar draws y Gwyddorau Cymdeithasol, y Biowyddorau, Meddygaeth a Seicoleg.

Dywedodd yr Athro Willis: "Ni ellir diystyru pa mor bwysig yw deall y cysylltiad dynol â'r gwyddorau: yn enwedig mewn byd sy'n wynebu heriau mor enfawr.

"Drwy fenter y Gwyddorau Cymdeithasol, mae Prifysgol Caerdydd yn arwain y ffordd yn y maes hwn, ac yn dod ag academyddion gyda gwahanol sgiliau a safbwyntiau at ei gilydd. Mae angen i ni ddeall iaith ein gilydd, a dod o hyd i ffyrdd o bontio'r bylchau i gynyddu ein gwybodaeth – dyna yw diben ysgolheictod llenyddiaeth a gwyddoniaeth."

Ychwanegodd: "Mae'r ymchwil arloesol hon yn cael ei hadlewyrchu drwy ein gweithgareddau addysgu. Mae dysgu am rôl ddiwylliannol gwyddoniaeth yn cynnig ffyrdd newydd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn trafodaethau dinesig a herio syniadau cyffredin. Mae myfyrwyr sy'n dod i Gaerdydd yn teimlo'n gyffrous i gael y syniadau diweddaraf mewn maes hynod arloesol sy'n tyfu'n gyflym."

I nodi deng mlynedd ers sefydlu JLS, bydd yr ysgolhaig rhyngwladol blaenllaw, yr Athro N. Katherine Hayles, yn traddodi darlith arbennig. Bydd Translating and Evolving: Posthuman Intersections of Human and Machine Languages yn agored i bawb ddydd Mawrth 1 Mai.

Ychwanegodd yr Athro Willis:  "Mae cyrraedd deng mlynedd yn garreg filltir addas iawn i gynnal dathliadau ar gyfer cyfnodolyn fel JLS. Rydym yn cynnig mynediad agored llawn, ac nid ydym yn codi unrhyw ffioedd awdur. Golyga hyn fod yn rhaid bod yn entrepreneuraidd er mwyn ariannu gweithgareddau'r cyfnodolyn, ac rydym yn ddiolchgar i'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth am ein cefnogi."

Cynhelir y ddarlith gyhoeddus i ddathlu deng mlynedd ers sefydlu The Journal of Literature and Science ddydd Mawrth 1 Mai am 6pm yn Narlithfa Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion y Brifysgol. Rhaid cadw lle ymlaen llaw.